Llyn yng Nghanada yw Llyn Athabasca, gyda rhan ohono yn nhalaith Alberta a rhan yn nhalaith Saskatchewan. Mae ganddo arwynebedd o 7,850 km2, hyd o 283 km, a lled o 50 km, ac mae'n 243 medr o ddyfnder yn y man dyfnaf.

Llyn Athabasca
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSaskatchewan, Alberta Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd7,850 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr213 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59.2667°N 109.45°W Edit this on Wikidata
Dalgylch274,540 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd283 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae dwy afon yn llifo i mewn iddo, afon Athabasca ac afon Peace, gydag afon Slave yn llifo allan. Ymhlith y trefi ar ei lan mae Uranium City, Camsell Portage a Fort Chipewyan.

Llun lloeren o Lyn Athabasca