Llyn

corff o ddŵr croyw, eitha llonydd

Corff sylweddol o ddŵr sy'n gorwedd mewn pant ar wyneb y tir yw llyn; neu mewn Cymraeg cynnar: llwch sy'n perthyn yn agos i'r gair Gaeleg loch. Fel rheol mae afonydd yn llifo i mewn ac allan o lynnoedd, er eithriadau lle nad oes all-lif na mewnlif iddynt.

Lake yn Bariloche (Yr Ariannin)
Llyn Titicaca, De America, o'r gofod
Fideo o lynnoedd ac afonydd Cymru a sut y mae deg ohonynt yn cael eu gwarchod gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Os ydych wedi cyrraedd yma wrth chwilio am y penrhyn a rhanbarth yng ngogledd-orllewin Cymru, gweler Llŷn (gwahaniaethu).

Mae'r rhan fwyaf o lynnoedd yn llynnoedd dŵr croyw, ond ceir rhai sy'n llynnoedd dŵr hallt, er enghraifft Great Salt Lake yn Utah, UDA. Mae rhai llynnoedd mawr yn cael eu cyfrif fel moroedd, e.e. Môr Caspia a'r Môr Marw.

Ceir llynnoedd artiffisial hefyd, wedi'u creu gan amlaf er mwyn cael ffynhonnell ddŵr neu ar gyfer cynlluniau trydan hydro. Gan amlaf (megis Llyn Celyn) fe'i creir trwy godi argae ar afon.

Llynnoedd nodedig golygu

Y llynnoedd mwyaf (arwynebedd) yn ôl cyfandir golygu

Llynnoedd yng Nghymru golygu

Mae llynnoedd yng Nghymru, yn ogystal â'r môr, afonydd a ffynhonnau, yn gyforiog o goelion a straeon gwerin dyfrllyd – lawer ohonynt (efallai?) yn atgof niwlog am hen draddodiadau a defodau cyn-Gristnogol Celtaidd.

Roedd dŵr yn elfen holl bwysig ym mywydau pobol; yn rhan mor hanfodol o drefn natur ac eto'n llawn gwrthgyferbyniadau – yn ffynhonnell bywyd a bwyd, yn iachau a phuro, ond hefyd yn chwalu a lladd. Gallai fod yn dryloyw ac eto'n llawn dirgelwch yn nyfnder anweladwy llyn, môr neu bwll a phan yn llonydd yn adlewyrchu goleuni duw'r haul a llun y sawl a edrychai iddo.

Aberthu golygu

Ystyrid bob corff o ddŵr yn sanctaidd ac yn borth i'r arall-fyd lle preswyliai ac y gellid cysylltu â'r duwiau a bodau goruwchnaturiol eraill. Dyma pam yr aberthid cymaint o drysorau i lynnoedd ar draws y byd Celtaidd. Tystia'r Groegwr Strabo fel y byddai llwyth Celtaidd y Volcae Tectosages yn aberthu ingotiau o aur ac arian i lyn sanctaidd ger Toulouse yn yr ail ganrif CC ac na feiddiai neb amharu â'r safle cyn i'r Rhufeiniaid anwar geisio codi'r cyfoeth o waelod y llyn yn 106CC! Disgrifia Gregory o Tours yn y canol-oesoedd ŵyl baganaidd 3 niwrnod ger llyn Gévaudan yn y Cevennes, ple aberthai'r bobl fwyd, dillad ac anifeiliaid i'r llyn.

Mae'r dystiolaeth archeolegol am aberthu i lynnoedd yn sylweddol. Un o'r safleoedd enwocaf a chyfoethocaf yw La Téne yn y Swisdir lle cafwyd olion llwyfan pren mewn mawnog ar ymyl bae bychan ar lan ddwyreinol Llyn Neuchâtel. Oddiarno, yn y ddwy ganrif CC derbyniodd duw'r llyn gannoedd o dlysau, picellau, cleddyfau a thariannau yn ogystal â chŵn, gwartheg, moch, ceffylau a phobl. Ar sail arbenigrwydd a cheinder yr addurniadau ar lawer o'r ebyrth metal hyn y diffiniwyd teip ag arddull addurniadol un o gyfnodau amlycaf y gelfyddyd glasurol Geltaidd.

Yng Nghymru canfyddwyd celc o waith metel yn Llyn Mawr, Morgannwg, yn dyddio o tua 600CC. Yn eu mysg roedd addurniadau harnais a cherbyd ceffyl; bwyelli, crymannau a dau grochan efydd – rhai ohonynt yn arddull addurniadol Hallstat, oedd yn blaenori'r La Ténne. Yn Llyn Cerrig Bach ym Môn cafwyd casgliad o arfau, crochannau, cadwen gaethweision a darnau o gerbyd rhyfel, oll wedi eu haberthu rhwng yr ail ganrif CC a'r ganrif gynta OC.

Anghenfilod golygu

Parhaodd y cof am aberthu i lynnoedd yn hir iawn ac mae straeon gwerin yn gyffredin am anghenfil sy'n preswylio yn y dyfnder dyfrllyd ac yn mynnu aberth blynyddol – merch ifanc fel arfer – neu bydd yn gadael y llyn ac anrheithio'r wlad oddiamgylch. Ond wrth lwc, fel arfer, fe ddaw arwr i ymladd a difa'r anghenfil ac achub y ferch!

Un o'r enghreifftiau enwocaf o anghenfil o'r fath, pe cai ferch ifanc neu beidio(!), oedd Yr Afanc a cheir sawl fersiwn o'r stori am y peth erchyll hwn. Yn Nyffryn Conwy, lle y llechai mewn pwll mawr yn yr afon Conwy – Llyn yr Afanc ger Betws y Coed – fe achosai orlifoedd enbyd yn y dyffryn bob hyn a hyn. Ond llwyddwyd i'w raffu a'i lusgo gan yr Ychain Bannog i Lyn Cwm Ffynnon yng nghesail y Glyder Fawr, ple na allai wneud cymaint o ddifrod. Yn Llyn Syfaddon ger Aberhonddu, Hu Gadarn a'i haliodd o'r llyn, tra yn Llyn Barfog ger Aberdyfi y Brenin Arthur a'i farch fu'n gyfrifol.

A beth am Tegid – sy'n anghenfil mwy modern, efallai – a driga yn Llyn Tegid? Fel Loch Ness yn yr Alban mae Llyn Tegid angen anghenfil yndoes?!

Gorlifoedd golygu

Priodolir tarddiad amryw o lynoedd i orlif pan esgeuluswyd roi'r caead yn ei ôl ar rhyw ffynnon neu'i gilydd. Enghraifft o hyn yw stori Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin a ffurfwyd pan anghofiodd Owain roi'r llech oedd yn gaead ar ffynnon ar y Mynydd Mawr yn ei hôl. Wrth farchogi ymaith digwyddodd edrych dros ei ysgwydd a gweld bod y ffynnon yn brysur orlifo'r wlad. Onibai iddo lwyddo i garlamu ei geffyl rownd y llyn newydd i'w atal rhag tyfu'n fwy, byddai'r wlad i gyd, a phawb a drigai ynddi, wedi boddi.

Ceir straeon tebyg am Ffynnon Grasi yn gorlifo a chreu Llyn Glasfryn yn Eifionydd; Ffynnon Gywer yn creu Llyn Tegid ac mae fersiwn gynnar o stori Cantre'r Gwaelod yn son am anffawd Mererid, ceidwades y ffynnon, yn methu ail-gaeadu'r ffynnon sanctaidd nes i'r cantref cyfan gael ei foddi.

Os dielid am esgeuluso ail-gaeadu ffynnon ceir hefyd ddial am greulondeb a chamwri. Mae stori Tyno Helig ar lannau'r Fenai, pan glywir y llais ysbrydol yn gwaeddi “Daw dial! Daw dial! Daw dial!” yn rhybudd erchyll y boddir y drwgweithredwr a'i holl ddisgynyddion rhyw ddydd. Cysylltir straeon tebyg hefyd â Llyn Llynclys rhwng Croesoswallt a Llanymynaich, Llyn Syfaddon a Llyn Tegid.

Y Tylwyth Teg golygu

Ond, o'r cyfan, efallai mai straeon am lynnoedd yn breswylfeydd i'r Tylwyth Teg sydd fwyaf adnabyddus ac am fugail yn hudo rhyw Dylwythes Deg i'r tir i'w briodi. Chwedl Llyn y Fan yw'r enghraifft orau o hyn a sut y gosodwyd amodau ar Rhiwallon fyddai'n sicrhau y byddai ei wraig yn aros yn ein byd ni. Pan dorwyd yr amodau aeth y ferch yn ôl i'r llyn gyda'i holl eiddo a'i gwartheg. Ond ni allasi gymeryd eu tri mab, na chwaith yr holl wybodaeth am feddyginiaethau yr oedd wedi ei ddysgu iddynt. Felly, am bod y fferm bellach yn “bancrypt(!)” fe drodd Rhiwallon a'i feibion yn feddygon gan ddod yn adnabyddus o hynny ymlaen fel teulu enwog Meddygon Myddfai.

Ceir straeon tebyg, neu o leia'n cynnwys rhai elfennau o'r stori hon, yn gysylltiedig â Llyn Nelferch neu Lyn y Forwyn ym Morgannwg; a Llynnau Barfog ac Arenig ym Meirionnydd a Llyn y Dywarchen a Llun Dwythwch yn Eryri.

Ond yn ogystal â'r Tylwyth Teg a'u hanifeiliaid yn dod i'n byd ni ceir enghraifft, yn stori Llyn Cwm Llwch ger Aberhonddu am ddrws cyfrin fyddai'n agor bob Calan Mai i wlad y Tylwyth Teg. Gwarchodid y porth a'r llyn gan gorach blïn mewn côt goch, a chawn disgrifiad o breswylfa'r Tylwyth ar ynys hud, fyddai'n anweledig fel arfer – sy'n ein hatgoffa, mewn cyswllt arall, o Ynys y Meirw, Afallon neu Dir Na-nog ym môr y gorllewin. Dyma'r porth i'r arall-fyd yn sicr.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-04-27. Cyrchwyd 2007-04-29.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-18. Cyrchwyd 2007-04-29.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am llyn
yn Wiciadur.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: