Llyn yng Nghasachstan yw Llyn Balkhash (Casacheg: Балқаш Көлі, "Balķaš Kôli", Rwseg: Озеро Балхаш, "Ozero Balhaš"). Llyn Balkhash yw llyn mwyaf Casachstan, a'r ail-fwyaf yng Nghanolbarth Asia ar ôl y Môr Aral.

Llyn Balkhash
Mathllyn caeedig, llyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Casachstan Casachstan
Arwynebedd18,200 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr342 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5408°N 74.8789°E Edit this on Wikidata
Dalgylch501,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd620 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Llyn Balkhash

Saif y llyn yn ne-ddwyrain y wlad, i'r gogledd o ddinas Almaty. Mae ei hyd dros 600 km, a'i arwynebedd yn 18,200 km². Nid yw'n lyn dwfn, dim ond tua 25 medr yn y man dyfnaf, a thua 5 m ar gyfartaledd.

Llifa nifer o afonydd i'r llyn, yn cynnwys Afon Ili ac Afon Karatal, ond nid oes afon yn llifo allan. O ganlyniad, mae dyfroedd ochr ddwyreiniol y llyn yn lallt.