Llyn naturiol yng ngogledd Ceredigion yw Llyn Syfydrin. Cyfeirnod AO: SN723848. Fe'i lleolir llai na 3 milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Ponterwyd a thua 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.

Llyn Syfydrin
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.446655°N 3.879625°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganAberystwyth Angling Association Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd y llyn tua 330 metr i fyny yn y bryniau i'r gorllewin o Bumlumon, mewn ardal o goedwigoedd. Llifa ffrwd ohono i gyfeiriad y de-ddwyrain i lifo i gronfa ddŵr Dinas ar afon Rheidol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.