Llyn Van
Llyn yn nwyrain Twrci yw Llyn Van (Twrceg: Van Gölü). Ef yw llyn mwyaf y wlad, gydag arwynebedd o 3755 km2. Mae'n 119 km ar draws yn y man lletaf, gyda dyfnder o 451 medr yn y man dyfnaf, a saif 1,640 medr uwch lefel y môr. Mae nifer o afonydd a nentydd bychain yn llifo i mewn iddo, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O ganlyniad, mae ei ddyfroedd yn hallt.
Math | llyn hallt, atyniad twristaidd, soda lake, tectonic lake |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Van, Talaith Bitlis |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 3,755 km² |
Uwch y môr | 1,640 metr |
Cyfesurynnau | 38.6333°N 42.8167°E |
Dalgylch | 12,500 cilometr sgwâr |
Hyd | 120 cilometr |
Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn, yn cynnwys Ynys Akhtamar, Çarpanak Adası, Adır Adası a Kuş Adası. Mae'r trefi ar ei lan yn cynnwys Van, Tatvan, Ahlat ac Erciş.