Llyn yr Oerfel
llyn yng Ngwynedd
Llyn yng Ngwynedd yw Llyn yr Oerfel neu Llyn yr Oerfa. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 9 acer, fymryn i'r dwyrain o gaer Rufeinig Tomen y Mur, 1,009 troedfedd uwch lefel y môr. Mae Nant Tyddyn-yr-ynn yn llifo o'r llyn i mewn i Lyn Trawsfynydd.
![]() | |
Math | llyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 9 acre ![]() |
Cyfesurynnau | 52.928484°N 3.913085°W ![]() |
![]() | |
Defnyddid dŵr o Lyn yr Oerfel ar gyfer y gaer Rufeinig, a gellir gweld olion dwy sianel oedd yn arwain y dŵr i'r gaer ei hun ac i'r baddondy gerllaw. Gellir gweld olion y bont lle roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn ychydig islaw'r llyn.
LlyfryddiaethGolygu
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)