Llynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd

Llynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd yw Morlu neu Lynges Corfflu y Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (Llynges y Gwarchodlu Chwyldroadol) yn Iran. Mae'n llynges atodol i'r llynges arferol (Llynges Iran) gyda tua 20,000 o aelodau a tua 1,500 o gychod a chychod cyrch cyflym sy'n gweithredu'n gyfochrog i'r llynges arferol ac yn aml iawn yn annibynnol arni. Mae'r ffigyrau hyn yn amcangyfrif yn unig. Mae llawer o'r cychod yn rhai bach iawn.

Arwydd y Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd

Gwyddys fod gan llynges y corfflu hofrenyddion yn ogystal.

Gweithrediadau nodedig

golygu

Ymarferion rhyfel

golygu

Yn Ebrill 2006 cynhaliodd ei ymarfer rhyfel neu "gêm ryfel" mwyaf erioed, pan arbrofiwyd pump o arfau newydd, gan gynnwys yr Hoot ('Morfil'), y torpedo cyflymaf yn y byd.

Cipio aelodau o'r Llynges Frenhinol

golygu

Ar 23 Mawrth 2007, cafodd pymtheg morwyr o HMS Cornwall eu cipio gan aelodau o Lynges y Corfflu yn yr Shatt al-Arab, yng Ngwlff Persia.[1]

Cyfeiriadau

golygu