Agor y brif ddewislen

Mae Gwlff Persia (Arabeg: الخليج الفارسى; Perseg: خلیج فارس) neu yn aml Y Gwlff[1] yn estyniad neu gwlff o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Sawdi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Ciwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrein yn ynys yn y Gwlff. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.

Gwlff Persia
PersianGulf vue satellite du golfe persique.jpg
Math Môr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cefnfor India Edit this on Wikidata
Arwynebedd 251,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 26°N 52°E Edit this on Wikidata
Llednentydd Shatt al-Arab, Afon Jarahi, Bahmanshir, Afon Mehran, Q5754560, Q5944742, Afon Mond, Q11945723, Q12645787 Edit this on Wikidata
Hyd 989 cilometr Edit this on Wikidata
Lleoliad Gwlff Persia. Mae Gwlff Oman yn arwain i mewn i Fôr Arabia.

Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.

Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arabaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Persian (Arabeg: الخلیج الپارسیان al-khalīj al-ʿfars) amdano.

CyfeiriadauGolygu

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 95.