Llys (cyfraith)
(Ailgyfeiriad o Llys barn)
Math o dribiwnlys sydd â'r awdurdod i roi barn am anghydfodau cyfreithiol ydy llys (a elwir hefyd yn llys barn). Yn aml maent yn sefydliadau a weinyddir gan y llywodraeth ac anelant at gyfiawnder mewn achosion preifat, troseddol a gweinyddol yn unol â deddfau. Barnwyr ac ynadon sy'n goruchwylio'r llys. Mae'r gair hefyd yn disgrifio adeilad sy'n cynnal achos llys.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/17/Microcosm_of_London_Plate_058_-_Old_Bailey_edited.jpg/220px-Microcosm_of_London_Plate_058_-_Old_Bailey_edited.jpg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elizabeth A. Martin a Jonathan Law, Oxford Dictionary of Law (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 136.