Llysenwau Ystalyfera
Yn y gorffennol, roedd Ystalyfera yn enwog am lysenwau. Fe'u derbyniwyd yn rhwydd iawn, nid yn unig gan drigolion lleol, ond mewn cylchoedd mwy swyddogol yn ogystal, gan gynnwys papurau dyddiol, cofrestrau etholiadol, adroddiadau'r capeli ag ati. Ym mhapur y Cambrian yn yr 1850au, cyfeiriwyd at Sam Llangyfelach, Twm Dai, Rhys Nanny, Twm Cwmtawe, a Twm Tal. Yn ddiweddarach, yng ngholofnau marwolaethau y Western Mail, weithiau cynhwysid llysenw ar ôl enw bedydd yr ymadawedig.
Dechreuwyd yr arferiad o lysenwi yn y 19g mae'n debyg, pan sefydlwyd y Gwaith Haearn yn Ystalyfera, ac agorwyd y pyllau glo lleol. Gwelwyd cannoedd o bobl yn llifo i'r ardal am waith. Roedd llawer ohonynt yn dwyn yr un enw ac yn gweithio yn yr un lle. Rhaid oedd mynd ati i ddyfeisio enwau newydd a'u hychwanegu at yr enw bedydd. Roedd llysenwau felly yn ymarferol angenrheidiol i wahaniaethu un dyn oddi wrth y llall. Yn y flwyddyn 1915 roedd 17 William Williams yn byw yn Ystalyfera, yn ogystal â: 15 David Davies; 15 John Williams; 14 William Davies; 14 John Jones; 12 Thomas Davies; 12 David Jones; 12 John Thomas; 9 Thomas Jones; 8 John Davies; 8 John Evans; 8 David Thomas; 7 Thomas Thomas; 7 David Williams; 7 Thomas Morgan; 7 Daniel Thomas; 7 William Griffiths; a 7 David Evans!
Gydag amser adnabyddwyd unigolion fwy-fwy wrth ei llysenw. Pe baech yn gofyn i drigolion pwy oedd Johnny Jones, ychydig fyddai yn ei adnabod. Ond pe ddefnyddid ei lysenw, Johnny Rhandirmwyn, byddai pawb yn ei adnabod. Rhoddwyd y llysenw yn yr ysbryd iawn, ac fe'i dderbyniwyd yn yr un ysbryd fel arfer. Unwaith y rhoddwyd, glynwyd ato am weddill oes. Trosglwyddwyd llawer ohonynt o genhedlaeth i genhedlaeth wedyn.
Defnyddiwyd sawl dull i ffurfio llysenwau, ac fe ddatblygwyd y grefft hon yn gelfydd iawn, ac fe ddyfeisiwyd ambell lysenw lliwgar iawn - rhai ohonynt yn rhy lliwgar i wici! Er enghraifft:
- Ychwanegu enw'r fam neu'r wraig: Dai Bach Sali, Wil Sali Fach, Wil Sara, Danny Ada, Dai Rachel, Evan John Matlida.
- Ychwanegu enw'r tad, neu'r fam a'r tad: Jim Marged John, Wil Mari Wil, Twm Dai Sam, John Wil Dai, Dai Harry Ben.
- Ychwanegu enw'r gwarchodwr: Ambell waith, collai plentyn ei rhieni. Fe'i godwyd gan fodryb, efallai, ac felly ceir llysenwau fel John Modryb Gwen, Dai Modryb Mari, Tomi Bopa.
- Ychwanegu enw'r man geni neu'r cartref, megis ffermydd: Shôn Penlanfach, Morgans Cwmtawe, Moc Pengraig, Georgi Sginon, John Pentwyn, Dai Tŷ Gwyn; Tai: Dai Ben Steps, Moc Tŷ Cwrdd, Jac To Cawn, Twm Tŷ Talc, Dic Siop y Gât; Tafarndai: John Rees y Gold, Moc y Smith, Twm Red Cow, Jack y Bridge, Rhysyn Bush, Jim y Queens, Simon Railway, Shôni Swan, Dai New Inn, Gwilym Tinmans.
- Ychwanegu'r ardal neu'r pentref genedigol: Jack Llandilo, Davies Aberlash, Dai Cydweli, Twm Llanilltud, Elwyn Bangor, Twm Swansea, Twm Bridgend, Wil Ponty, Wil Aberdâr, Twm Rhydyfro, Jane Gelliaur, Dai Cardi, Lisa Sir Gâr, Moc Ochor Draw, John Bach o'r wlad, Owen o'r North.
- Ychwanegu galwedigaeth: Dai Jones Lla'th, Gwilym Tilwr, James yr Oil, Smith Bach y Crydd, Jones y Draper, John Bwyd Ffowls, George y Bwtsiwr, Jack y Gôf, Bili German Yeast, Wil Coachman, Jones y Dŵr, Dai Barbwr, Idris Cig, Dai Bach Calch, Wil Rees y Printer, Dai Rees y Llais, Tomi Cobler, Dai Golchi, Albert 'Sane, John Tê, Twm Caws a Menyn.
- Ychwanegu lleoliad y gweithle: Twm Tip, Twm Tarenni, Bil Siôn y Cwar, Jack y Barracks, Dai India.
- Ychwanegu disgrifiad o ddillad yr unigolyn: Twm Wasgod Bert, Edwin Cefen Lleter, Twm Crys Gwyn, Dan Got Lwyd, Topper Brown.
- Ychwanegu lliw gwallt: Wil Coch, Rhys Coch, Dai Coch.
- Ychwanegu cysylltiad cerddorol: Dai Acordion, Moc Mouth Organ, Dic Cantwr, John Beat Four.
- Ychwanegu hoffter o fwyd neu faco: Wil Bara Jam, Dai Cockles, Billy Cawl, Beni Tishen, John Baco Sent, Wil Woodbine, Wil Cetyn.
- Ychwanegu dywediad hynod gan yr unigolyn, neu arferiad neu allu anarferol: Twm 'Wedai Dim, Dai Substantial, Wil John Sais, Tom y Blue, Edwin Parrott, Shôni Clepryn, Twm Trwst, Davy John myn yfflon i, Wil Bwlet, Dai Rip and Tear, Dic y Raswr.
Llyfryddiaeth
golygu- Bernant Hughes, Enwau sy'n gysylltiedig â phentre Ystalyfera (Gwasg Morgannwg, Castell Nedd, 1988)