Llysenwau Cymraeg
Ymddengys ei bod yn arfer gan y Cymry roi llysenw ar ei gilydd ac ar bethau a lleoedd ers gwawr hanes Cymru a cheir llu o enghreifftiau hanesyddol a chyfoes o'r llysenw Cymraeg.
Tarddiad
golyguTardd yr enwau hyn o:
- weithredoedd y person megis 'Hywel Dda'
- swydd neu waith, e.e. 'Jones y Gof'
- enw trigfan, yn enwedig enw ffarm neu dŷ, e.e. 'Dafydd Penlan', 'Alun Tŷ'r Ysgol', Dic Penderyn, Catrin o Ferain. Mae'r arfer hwn yn parhau hyd heddiw yng nghefn gwlad. Pe bai rhywun yn symud i ardal arall yna enw'r fro yr hanai ohono fyddai ei arallenw.
- briodoledd personol megis Llwyd (a olygai 'sanctaidd' a'r lliw brown yn ogystal â'r lliw llwyd yn yr Oesau Canol), Goch, Gam, Gwyn.
- briodoledd bro neu dref, neu ddigwyddiad hanesyddol
Llysenwau pobl
golyguHanesyddol
golyguCeir rhai o'r enghreifftiau cynharaf ar glawr o lysenw Cymraeg ar bobl yn y chwedl Cymraeg Canol Culhwch ac Olwen, e.e. Dillus Barfog, Wrnach Gawr, Gwyddno Garanhir, Lludd Llaw Eraint. Ceir sawl enghraifft yn y Pedair Cainc hefyd, e.e. Teyrnon Twrf Fliant. Ceir un o'r enghreifftiau cynharach oll efallai yng nghanu Taliesin yn enw Fflamddwyn, un o elynion Rheged.
Arferai'r beirdd Cymraeg roi llysenwau (enw barddol) ar ei gilydd, weithiau'n barchus ond weithiau hefyd yn ddigon amharchus, i'n golwg ni o leiaf. Cyfeiria Nennius at y beirdd Blwchfardd a Talhaearn Tad Awen er enghraifft. Ceir llu o engrheifftiau yn enwau Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, e.e. Elidir Sais, Casnodyn, Yr Ustus Llwyd, Iolo Goch, Llywarch Bentwrch, Mab Clochyddyn, Hywel Ystorm.
Roedd Cymry cyffredin yr Oesoedd Canol yn arfer defnyddio llysenwau hefyd. Ceir cloddfa arbennig o gyfoethog yn y stent neu arolwg o Feirionnydd a wnaed yn y 1290au, er enghraifft. Gwelir rhai o frenhinoedd a thywysogion y Gymru annibynnol yn derbyn neu'n arddel llysenwau hefyd, e.e. Brochwel Ysgithrog (brenin cynnar ar Bowys), Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr, a Gwladus Ddu, ferch Llywelyn.
Ceir nifer o wahanol fathau o lysenwau. Daw'r canlynol o ardal Ystalyfera:
- Ychwanegu enw'r fam neu'r wraig: Dai Bach Sali, Wil Sali Fach, Wil Sara, Danny Ada, Dai Rachel, Evan John Matlida.
- Ychwanegu enw'r tad, neu'r fam a'r tad: Jim Marged John, Wil Mari Wil, Twm Dai Sam, John Wil Dai, Dai Harry Ben.
- Ychwanegu enw'r gwarchodwr: Ambell waith, collai plentyn ei rhieni. Fe'i godwyd gan fodryb, efallai, ac felly ceir llysenwau fel John Modryb Gwen, Dai Modryb Mari, Tomi Bopa.
- Ychwanegu enw'r man geni neu'r cartref, megis ffermydd: Shôn Penlanfach, Morgans Cwmtawe, Moc Pengraig, Georgi Sginon, John Pentwyn, Dai Tŷ Gwyn; Tai: Dai Ben Steps, Moc Tŷ Cwrdd, Jac To Cawn, Twm Tŷ Talc, Dic Siop y Gât; Tafarndai: John Rees y Gold, Moc y Smith, Twm Red Cow, Jack y Bridge, Rhysyn Bush, Jim y Queens, Simon Railway, Shôni Swan, Dai New Inn, Gwilym Tinmans.
- Ychwanegu'r ardal neu'r pentref genedigol: Jack Llandilo, Davies Aberlash, Dai Cydweli, Twm Llanilltud, Elwyn Bangor, Twm Swansea, Twm Bridgend, Wil Ponty, Wil Aberdâr, Twm Rhydyfro, Jane Gelliaur, Dai Cardi, Lisa Sir Gâr, Moc Ochor Draw, John Bach o'r wlad, Owen o'r North.
- Ychwanegu galwedigaeth: Dai Jones Lla'th, Gwilym Tilwr, James yr Oil, Smith Bach y Crydd, Jones y Draper, John Bwyd Ffowls, George y Bwtsiwr, Jack y Gôf, Bili German Yeast, Wil Coachman, Jones y Dŵr, Dai Barbwr, Idris Cig, Dai Bach Calch, Wil Rees y Printer, Dai Rees y Llais, Tomi Cobler, Dai Golchi, Albert 'Sane, John Tê, Twm Caws a Menyn.
- Ychwanegu lleoliad y gweithle: Twm Tip, Twm Tarenni, Bil Siôn y Cwar, Jack y Barracks, Dai India.
- Ychwanegu disgrifiad o ddillad yr unigolyn: Twm Wasgod Bert, Edwin Cefen Lleter, Twm Crys Gwyn, Dan Got Lwyd, Topper Brown.
- Ychwanegu lliw gwallt: Wil Coch, Rhys Coch, Dai Coch.
- Ychwanegu cysylltiad cerddorol: Dai Acordion, Moc Mouth Organ, Dic Cantwr, John Beat Four.
- Ychwanegu hoffter o fwyd neu faco: Wil Bara Jam, Dai Cockles, Billy Cawl, Beni Tishen, John Baco Sent, Wil Woodbine, Wil Cetyn.
- Ychwanegu dywediad hynod gan yr unigolyn, neu arferiad neu allu anarferol: Twm 'Wedai Dim, Dai Substantial, Wil John Sais, Tom y Blue, Edwin Parrott, Shôni Clepryn, Twm Trwst, Davy John myn yfflon i, Wil Bwlet, Dai Rip and Tear, Dic y Raswr.
Llyfryddiaeth
golygu- Bernant Hughes, Enwau sy'n gysylltiedig â phentre Ystalyfera (Gwasg Morgannwg, Castell Nedd, 1988)
Cyfoes
golyguGellid rhoi nifer o enghreifftiau o lysenwau cyfoes neu ddiweddar ar bobl. Arfer cyffredin iawn yw enwi rhywun yn ôl ei grefft neu'i alwedigaeth, e.e. 'Siôn y Bocs' a 'Glyn Cysgod Angau' (trefnwyr angladdau)[1], 'Wil Llefrith', a.y.y.b. Mae llysenwau lliwgar yn rhan amlwg o ddiwylliant ardaloedd diwydiannol a threfol Cymru, e.e. Shoni Ben Pwll, Wil Bron Sythu, Gwilym Lampy (a weithiai yn y lamp-room), Mrs Davies Lampost (a phostyn lamp tu allan i'w thŷ).[2]
Llysenwau lleoedd
golyguMae sawl lle yng Nghymru yn cael ei adnabod gan ei lysenw. Yr enghreifft fwyaf adnabyddus mae'n debyg yw 'Môn Mam Cymru' (Ynys Môn).
Yn perthyn i'r dosbarth hwn a'r uchod hefyd yw llysenwau am bobl o ardal neilltuol. Mae enghreifftiau adnabyddus yn cynnwys 'Moch Môn' (llysenw hanesyddol heb fod yn amharchus), 'Cofis' am bobl tre Caernarfon, a 'Hwntw' am rywun o'r De a 'Gog' am rywun o'r Gogledd. 'Jac-y-do' yw'r enw ar rywun a aned o fewn muriau tref Conwy.
Llysenwau pethau
golyguYn hanesyddol, mae llawer o lysenwau ar bethau yn deillio o fyd amaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Myrddin ap Dafydd (gol.), Llysenwau (Gwasg Carreg Gwalch, 2007). Cyfres Pigion Llafar Gwlad:4. ISBN 9780863814532 (0863814530)
- ↑ D. Geraint Lewis, Welsh Names (2001, Geddes & Grosset)