Llywelyn ap Gruffudd Fychan
Sgwïer o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan (1341? - 9 Hydref 1401). Roedd yn un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth; cafodd ei ddienyddio am ei ran yn y gwrthryfel hwnnw.
Llywelyn ap Gruffudd Fychan | |
---|---|
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn Llanymddyfri | |
Ganwyd | 1341 Caeo |
Bu farw | 9 Hydref 1401 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Hanes
golyguCynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei ddienyddio yn Llanymddyfri yn Hydref o'r un flwyddyn.
Cof
golyguCodwyd cerflun i'w goffáu ger Castell Llanymddyfri yn 2001, ar chwechan mlwyddiant ei ddienyddiad.