Llanymddyfri

tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin

Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Seisnigiad: Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod. Enwyd epoc, sy'n rhaniad o amser daearegol, ar ôl y dref: Epoc Llanymddyfri.

Llanymddyfri
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,870, 1,987 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPluguen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.995°N 3.795°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000514 Edit this on Wikidata
Cod OSSN763346 Edit this on Wikidata
Cod postSA20 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auAnn Davies (Plaid Cymru)
Map

Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.

Cynrychiolir Llanymddyfri yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]

Adeiladwyd Castell Llanymddyfri gan y Normaniaid ym 1110, ond cipiwyd ef gan y Cymry bron yn syth. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau yn y ganrif a hanner nesaf. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, defnyddiwyd y castell gan Harri IV, brenin Lloegr, a dienyddiodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn y dref. Ymosododd byddin Glyn Dŵr ar y castell ym 1403, ac mae wedi bod yn adfail ers hynny.

Roedd Rhys Prichard ("Yr Hen Ficer" neu "Y Ficer Prichard") yn enedigol o Lanymddyfri ac yn ficer yma. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan borthmon lleol yn Llanymddyfri ym 1799.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanymddyfri (pob oed) (2,065)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanymddyfri) (856)
  
42.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanymddyfri) (1439)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanymddyfri) (397)
  
43.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Gefeilldrefi

golygu

Gweler hefyd

golygu
  • Llandingad, y plwyf eglwysig sy'n cynnwys Llanymddyfri.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]