Llywelyn ap Madog
(1150-1160)
Llywelyn ap Madog (m. 1160) oedd mab hynaf ac etifedd y tywysog Madog ap Maredudd o Bowys.
Llywelyn ap Madog | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Bu farw | 1160 |
Tad | Madog ap Maredudd |
Mam | Siwsana ferch Gruffudd |
- Gweler hefyd Llywelyn ap Madog, Esgob Llanelwy.
Bywgraffiad
golyguYchydig iawn a wyddys amadano. Bu farw mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160.
Ceir dwy gerdd o foliant i Lywelyn ap Madog a briodolir i Llywarch y Nam a Llywarch Llaety (fl. 1160 ill dau). Cerdd i ddiolch i Lywelyn ap Madog am rodd o gŵn hela mewn cyfres o englynion yw'r testun a briodolir i Lywarch y Nam. Mae cerdd Llywarch Llaety yn anfon march i ofyn cyfres o gwestiynau rhethregol am filwriaeth Llywelyn. Yn anffodus nid yw'r cerddi yn ychwanegu llawer at ein gwybodaeth am Lywelyn.
Llyfryddiaeth
golygu- Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch y Nam' a 'Gwaith Llywarch Llaety', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'