Locomotif dosbarth 1400 GWR

Mae Dosbarth 1400 GWR yn fath o Locomotif Stêm, cynlluniwyd ar gyfer trenau i deithwyr ar gangennau Rheilffordd y Great Western. Oeddent Dosbarth 4800 GWR yn wreiddiol ym 1932, ond newidiwyd eu rhifau ym 1946. Adeiladwyd 75 o’r dosbarth yng Ngweithdy Swindon. Er disgrifir y cynllun fel un gan Charles Collett, mae’r cynllun sylfaenol y dyddio’n ol i Dosbarth 517 GWR, cynlluniwyd gan George Armstrong, ac adeiladwyd yng Ngweithdy Heol Stafford, Wolverhampton rhwng 1868 a 1885.[1][2]

1450 yn cyrraedd Carrog
1450 ynghanol trên awto yn Llangollen

Cynlluniwyd y dosbarth i fod yn drenau awto wedi cysylltu i gerbydau arbennig; roedd hi’n bosib gyrru’r trên o’r cerbyd yn hytrach nac o’r locomotif. Roeddent yn cyflymach – hyd at 80 milltir yr awr – na threnau diesel mwy ddiweddar.[3]

Pan addaswyd 12 locomotif Dosbarth 2800 GWR i ddefnyddio olew, newidiwyd eu rhifau i 4800 ymlaen. Felly newidiwyd rhifau’r dosbarth gwreiddiol 4800 i 1400-1474. Scrapiwyd yr olaf un o ddosbarth 517 George Armstrong ym mis Ebrill 1961. Scrapiwyd mwyafrif o ddosbarth 1400 rhwng 1956 a 1965.

Cadwriaeth golygu

Mae 4 locomotif wedi goroesi, i gyd wedi gweithio hyd at y gyfnod 1963-65 ac yn gyflwr da:-

Gwybuwyd fel Y Tivvy Bumper, tynnodd 1442 y trên olaf i Tiverton ym mis Hydref 1965.[4] Mae gan bob un heblaw am 1442 ddarpar trên awto. Mae 1450 wedi gweithio ar brif linellau rhwng Caerwysg a Newton Abbott, fel yr hen Dawlish Donkey.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan greatwestern.org.uk
  2. Gwefan docbrown.info
  3. "Gwefan spellerweb.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-22. Cyrchwyd 2021-01-25.
  4. "Gwefan Amgueddfa Tiverton". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-13. Cyrchwyd 2021-02-06.