Rheilffordd Dyffryn Hafren
Mae'r Rheilffordd Dyffryn Hafren yn rheilffordd dreftadaeth sy'n mynd o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon i Bridgnorth yn Swydd Amwythig, tua 16 milltir o hyd ac o led safonol.
Enghraifft o'r canlynol | llinell rheilffordd, rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Daeth i ben | 1870 |
Dechrau/Sefydlu | 1862, 1970 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Kidderminster |
Gwefan | https://www.svr.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheilffordd Dyffryn Hafren | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Hanes
golyguAdeiladwyd lein rhwng 1858 a 1862 yn cysylltu Hartlebury, Stourport, Bewdley, Arley, Highley, Hampton Loade, Bridgnorth, Coalport, Ironbridge, Buildwas, Cressage, Berrington ac Amwythig. Daeth y lein yn rhan Rheilffordd y Great Western ym 1870[1]. Adeiladwyd lein o Bridgnorth i Kidderminster ym 1878.[2]
Caewyd y lein ym 1963 yn rhan o doriadau Beeching.[3]
Atgyfodi
golyguFfurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Dyffryn Hafren ar 6 Gorffennaf 1965. Daeth Syr Gerald Nabarro'n gadeirydd. Gwerthiwyd cyfrandaliadau a prynwyd y lein o Alveley, trwy Highley, Arley a Bewdley hyd at Parc Foley, yn ymyl Kidderminster oddi wrth Rheilffyrd Prydeinig am £74,000. Agorwyd y darn cyntaf rhwng Bridgnorth a Hampton Loade ym Mai 1970, y darn nesaf hyd at Highley yn Ebrill 1974, a hyd at Bewdley ym Mai 1974.[2]
Prynwyd y lein o Parc Foley i Kidderminster ym 1982, a llogwyd safle'r iard nwyddau yn Kidderminster oddi wrth Rheilffyrd Prydeinig. Adeiladwyd Gorsaf reilffordd Kidderminster, copi o orsaf reilffordd Y Rhosan ar Wy ac agorwyd or orsaf ar 30 Gorffennaf 1984, yn ailsefydlu cysylltiad efo'r rheilffyrdd cenedlaethol.[3]
Y ganolfan ymwelwyr ac addysg
golyguCwblhawyd y ganolfan yn Highley yn 2009[1].
Locomotifau
golyguLocomotifau Stêm Gweithredol
golyguLocomotifau diesel
golyguRhif | Enw | Delwedd | Trefn yr Olwynion | Adeiladwyd | Adeiladwr | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
D2960 | Silver Spoon | 0-4-0 | 1956 | Cwmni Ruston a Hornsby | Gweithio yn Kidderminster. Cyn-eiddo Corfforaeth Bryneinig Siwgr | ||
D2957 | 0-4-0 | 1953 | Cwmni Ruston a Hornsby | Gweithredol. Cyn -eiddo Cemygion B I P, Langley Green | |||
D2961 | 0-4-0 | Cwmni Ruston a Hornsby | Gweithio yn Bridgnorth. Perchennog Pete Cherry | ||||
D3022 | 0-6-0 | 1953 | Cwmni English Electric | Gweithio yn Kidderminster. Perchennog Cymdeithas Dosbarth 08. | |||
D3201 | 0-6-0 | Cwmni English Electric | Gweithio yn Kidderminster | ||||
D3586 | 0-6-0 | 1958 | Cwmni English Electric | Gweithio yn Bridgnorth. | |||
D3802 | 0-6-0 | 1958 | Cwmni English Electric | yn storfa | |||
08896 | 0-6-0 | Cwmni English Electric | yn Kidderminster. Ffynhonnell darnau sbâr | ||||
D4100 | Dick Hardy | 0-6-0 | Gweithdai Horwich | Dosbarth 09. Gweithio yn Kidderminster | |||
12099 | 0-6-0 | 1952 | English Electric | Dosbarth 11. Perchennog Cronfa Siwntwr Kidderminster. Gweithredol | |||
D9551 | Angus | 0-6-0 | 1965 | BR Swindon | Dosbarth 14. Perchennog Cwmni SVR Dosbarth 14. Trwsir yn Bridgnorth. | ||
D8188 | Bo-Bo | 1967 | Ffowndri Vulcan | Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset. Trwsir yn Washwood Heath. | |||
D8059 | Bo Bo | 1961 | Cwmni Robert Stephenson a Hawthorn | Gweithredol. Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset. | |||
D20177 | Bo Bo | Cwmni Robert Stephenson a Hawthorn | Ffynhonnell darnau sbâr. Dosbarth 20. Perchennog Cwmni Locomotif Gwlad yr Haf a Swydd Dorset. | ||||
D5410 | Bo Bo | 1961 | Cwmni Cerdydau Birmingham | Yn storfa, Kidderminster. Perchennog Cyngor Sandwell | |||
D7029 | B-B | 1961 | Cwmni Beyer Peacock | Dosbarth 35 (Hymek). Perchennog Grŵp Tyniant Diesel. Atgyweirir yn Kidderminster | |||
D821 | B-B | 1958 | BR Swindon | Dosbarth 42 (Warship). Perchennog Grŵp Tyniant Diesel. Atgyweirir yn Old Oak Common | |||
50031 | Hood | Co-Co | 1967 | Cwmni English Electric | Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yng Ngweithdai Eastleigh. | ||
50035 | Ark Royal | Co-Co | 1968 | Cwmni English Electric | Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Gweithredol. | ||
50044 | Exeter | Co-Co | 1968 | Cwmni English Electric | Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yn Kidderminster | ||
50049 | Defiance | Co-Co | 1968 | Cwmni English Electric | Dosbarth 50. Perchennog cynghrair Dosbarth 50. Atgyweirir yn Kidderminster | ||
D1013 | Western Ranger | C-C | 1962 | BR Swindon | Dosbarth 52. Perchennog Cymdeithas Locomotif 'Western'. Atgyweirir yn Bridgnorth. | ||
D1062 | Western Courier | C-C | 1962 | BR Swindon | Dosbarth 52. Perchennog Cymdeithas Locomotif 'Western'. Gweithredol. | ||
51941/50933/52064/56208/59250 | 1958-61 | Gweithdai Derby | Uned Dosbarth 108. Perchennog Grŵp DMU (gorllewin canolbarth). Gweithredol. |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan british-heritage-railways". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-05. Cyrchwyd 2015-07-05.
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan steamrailwaylines". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-07. Cyrchwyd 2015-07-05.
- ↑ 3.0 3.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-05.