Awdur a tiwtor Cymraeg yw Lois Arnold (ganwyd 1955).

Lois Arnold
Ganwyd1955 Edit this on Wikidata
Surrey Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganed Lois yn Walton-on-Thames, Surrey, a chafodd ei magu yn Weybridge ac yn Stevenage, Swydd Hertford,[1] ond mae'n byw yng Nghymru ers rhai blynyddoedd bellach. Dysgodd Gymraeg yn rhugl ac mae wedi gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Gwent yn y Fenni. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o storïau byrion i ddysgwyr, Cysgod yn y Coed gyda Gomer yn 2004.

Enillodd Dlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 2004, felly mae'n cofio'r broses o ddysgu Cymraeg yn dda iawn. Erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau canu, cerdded, nofio, darllen a garddio.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lois Arnold ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.