Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004)
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004 ym Mharc Ty Tredegar, Casnewydd rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst 2004.
← Blaenorol | Nesaf → | |
Cynhaliwyd | 31 Gorffennaf-7 Awst 2004 | |
---|---|---|
Archdderwydd | Robyn Lewis | |
Daliwr y cleddyf | Ray o'r Mynydd | |
Cadeirydd | John Hughes | |
Nifer yr ymwelwyr | 148,178 [1] | |
Enillydd y Goron | Jason Walford Davies | |
Enillydd y Gadair | Huw Meirion Edwards | |
Gwobr Daniel Owen | Robin Llywelyn | |
Gwobr Goffa David Ellis | Martin Lloyd | |
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn | Carwyn John | |
Gwobr Goffa Osborne Roberts | Gwawr Edwards | |
Gwobr Richard Burton | Dyfan Dwyfor | |
Y Fedal Ryddiaith | Annes Glyn | |
Medal T.H. Parry-Williams | Eirlys Phillips | |
Tlws Dysgwr y Flwyddyn | Lois Arnold | |
Tlws y Cerddor | Owain Llwyd | |
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts | Alun Rhys Jenkins | |
Medal Aur am Gelfyddyd Gain | Stuart Lee | |
Medal Aur am Grefft a Dylunio | Walter Keeler | |
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc | Sean Edwards | |
Medal Aur mewn Pensaernïaeth | Penseiri Powell Dobson | |
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth | Rory Harmer / Manon Awst | |
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg | Glyn O Phillips |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Tir Neb | "Neb" | Huw Meirion Edwards |
Y Goron | Egni | "Brynach" | Jason Walford Davies |
Y Fedal Ryddiaith | Symudliw | "Mymryn" | Annes Glynn |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Un Diwrnod yn yr Eisteddfod | "Wil Chips" | Robin Llywelyn |
Tlws y Cerddor | Y Gath a'r Golomen | "Y Clebrwr" | Owain Llwyd |
Gwnaed y goron gan Helga Prosser. Fe'i cyflwynwyd er cof am John Nicholas Evans gan Heulwen Davies, W. John Jones a'r Dr Eric Sturdy.
Nofel arall a ddaeth yn agos iawn i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Carnifal gan Robat Gruffudd.
Rhoddwyd y Wobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r Athro Glyn O Phillips.
Dewiswyd Lois Arnold yn enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn.
Hon oedd yr eisteddfod gyntaf i ganiatau gwerthu alcohol ynddi ar y maes.
Gweler hefydGolygu
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghasnewydd
LlyfryddiaethGolygu
- Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Eisteddfod Casnewydd wedi gosod y safon Gwefan y BBC