Looking Back on Eighty Years
Casgliad o frasluniau hunangofiannol gan y llenor Seisnig W. Somerset Maugham yw Looking Back on Eighty Years a gyhoeddwyd mewn rhannau ym mhapur newydd y Sunday Express ym 1962.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | W. Somerset Maugham |
Dyddiad cyhoeddi | 1962 |
Cychwynnodd Maugham ar y llyfr hwn yn Nhachwedd 1960, a wedi iddo ei orffen cafodd y llawysgrif ei chloi mewn cell banc. Addawodd Alan Searle, ysgrifennydd a chariad Maugham, na fyddai'r gwaith yn cael ei gyhoeddi. Pa beth bynnag ei ewyllys, nid oedd diddordeb yn y gwaith gan gyhoeddwyr Maugham, William Heinemann a Doubleday. Er gwaethaf, llwyddodd Searle i ddwyn perswâd ar Maugham i werthu'r gwaith i'r Sunday Express am £3500. Cyhoeddwyd Looking Back mewn wyth rhan yn y Sunday Express o 9 Medi i 28 Hydref 1962, a chyfrannodd Searle ffotograffau ac anecdotau'i hun i liwio'r penodau.[1]
Crewyd stŵr gan sylwadau a chyffesion yr awdur, yn enwedig ei sarhad ar gof ei gyn-wraig, Syrie Maugham, a fu farw ym 1955. Haera nad oedd erioed mewn cariad â Syrie, a'i reswm am ei phriodi oedd i gyfreithloni eu merch Liza. Disgrifiodd Syrie yn wraig benchwiban, ffroenuchel, hunanol, anonest, ac anfoesol. Bu rhwyg rhwng Somerset Maugham a Liza o ganlyniad i'w ddatgeliadau, a bu nifer o hen gyfeillion Syrie yn amddiffyn ei henw. Trodd y dramodydd Noël Coward ei gefn ar Maugham.[1]