W. Somerset Maugham

Nofelydd, dramodydd, ac awdur straeon byrion o Sais oedd William Somerset Maugham (25 Ionawr 187416 Rhagfyr 1965).

W. Somerset Maugham
Somerset Maugham (1934).jpg
Ffotograff o Somerset Maugham ym 1934 gan Carl Van Vechten.
Ganwyd25 Ionawr 1874 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Nice Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, nofelydd, meddyg ac awdur, sgriptiwr, rhyddieithwr, beirniad llenyddol, army scout, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amOf Human Bondage, The Razor's Edge Edit this on Wikidata
TadRobert Ormond Maugham Edit this on Wikidata
MamEdith Mary Snell Edit this on Wikidata
PriodSyrie Maugham Edit this on Wikidata
PlantMary Elizabeth Maugham Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Cymdeithion Anrhydedd Edit this on Wikidata

Ganed ym Mharis, Ffrainc, yn fab i Robert Ormond Maugham, cyfreithiwr y llysgenhadaeth Brydeinig. Bu farw ei rieni pan oedd William yn fachgen, ac aeth i fyw gyda'i ewythr a oedd yn ficer Whitstable, Caint. Mynychodd Ysgol y Brenin yng Nghaergaint am dair blynedd cyn astudio am gyfnod yn Hyères, ar arfordirol deheuol Ffrainc. Treuliodd y flwyddyn 1891 yn Heidelberg, ac yno bu'n mynychu darlithoedd y brifysgol. Cychwynnodd ar ei astudiaethau meddygol yn Ysbyty Sant Tomas, Lambeth, Llundain, ym 1892. Wedi iddo dderbyn ei radd ym 1897, gweithiodd yn obstetrydd yn yr ysbyty am flwyddyn. Ysgrifennodd ei lyfr cyntaf, y nofel Liza of Lambeth (1897), ar sail ei brofiadau yn trin mamau tlawd ardal Lambeth. O ganlyniad i lwyddiant bach y gyfrol, penderfynodd Maugham roi'r gorau i waith y meddyg a chychwyn ar yrfa lenyddol lawn-amser.

Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, A Man of Honour, ym 1898, a fe'i perfformiwyd yn y Theatr Imperial, Westminster, ym 1903. Ei lwyddiant cyntaf ar y llwyfan, fodd bynnag, oedd Lady Frederick, a ysgrifennwyd ganddo ym 1903 a pherfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr y Llys Brenhinol, Sgwâr Sloane, yn Hydref 1907. O fewn wyth mis, roedd pedwar drama o ysgrifbin Maugham i'w gweld ar lwyfannau Llundain: y gomedi Lady Frederick, y ffarsiau Jack Straw a Mrs Dot, a'r felodrama The Explorer. Yn y cyfnod 1903–33, ysgrifennodd 36 o ddramâu i gyd, a chafodd 25 ohonynt eu perfformio a'u cyhoeddi yn ystod ei oes, y mwyafrif ohonynt yn ffarsiau'r parlwr neu gomedïau moesau yn y traddodiad Edwardaidd, yn eu plith The Circle, Our Betters, a The Constant Wife. Cawsant eu perfformio ar draws Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd y dramodydd ddigon o arian am ei waith. Bellach mae themâu cymdeithasol y dramâu yn hen ffasiwn a chaiff Maugham ei gofio'n bennaf am ei nofelau a'i straeon byrion.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd Maugham yn ysbïwr yn y Swistir. Yn y cyfnod hwn cyhoeddwyd un o'i weithiau enwocaf, y nofel Of Human Bondage (1915), sydd yn cynnwys elfennau o hunangofiant, a'r nofel The Moon and Sixpence (1919) sydd yn tynnu ar fywyd yr arlunydd Paul Gauguin. Cafodd Maugham ferch o'r enw Elizabeth "Liza" Mary Maugham (1915–98)[1] â'r addurnwr tai Syrie Wellcome, gwraig y dyn busnes Henry Wellcome. Priododd â Syrie ym 1917 ond chwalodd y briodas ym 1925 a chawsant ysgariad ym 1929. Prynodd Maugham fila yn Cap Ferrat, ger Nice, yn ne-ddwyrain Ffrainc, ym 1926 ac yno bu ei gartref am weddill ei oes. Ysgrifennodd straeon Ashenden (1928) ar sail ei brofiadau yn ysbïo, a'r nofel ddychanol Cakes and Ale (1930), mae'n debyg, i bortreadu'r awduron Thomas Hardy a Hugh Walpole.

Rhoes Maugham y gorau i'r theatr ym 1933, yn 59 oed, yn sgil derbyniad llugoer ei ddrama olaf, Sheppey. Ysgrifennodd ryddiaith am flynyddoedd lawer, gan gynnwys rhagor o nofelau (megis The Razor's Edge, 1944) a chasgliadau o straeon byrion, cyfrolau o ysgrifau, a'i dri chofiant, The Summing Up (1938), Strictly Personal (1941), a Looking Back (1962). Bu farw Somerset Maugham yn Nice yn 91 oed, yn dioddef o ddementia.

Bywyd cynnar ac addysg (1874–97)Golygu

Ganed William Somerset Maugham ar 25 Ionawr 1874 yn llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig ym Mharis, Ffrainc. Ei rieni oedd Robert Ormond Maugham yr ieuaf (1823–84) a'i wraig Edith Mary (Snell gynt; 1840–82). Sefydlwyd swyddfa cyfreithwyr gan Robert Maugham a'i bartner, William Dixon, yn 12 Rue Royale ym 1848 i weithio i'r llysgenhadaeth Brydeinig yn bennaf. Ym 1863 symudodd y swyddfa i 54 Faubourg Saint Honore, ar ochr draw'r stryd i'r llysgenhadaeth. Ar 1 Hydref 1863 priododd Robert Maugham ag Edith Snell, ac ymgartrefasant mewn rhandy ar drydydd llawr 25 Avenue d'Antin.[2] Cawsant bedwar plentyn – Robert Cleveland Maugham (1864, bu farw yn faban), Charles Ormond Maugham (1865–1958?), Frederic Herbert Maugham (1866–1958), ac Henry Neville Maugham (1868–1904) – cyn geni William. Trefnwyd i'w fam esgor arno yn adeilad y llysgenhadaeth, fel na fyddai'r plentyn yn cael ei alw i fyddin Ffrainc.

Ym 1877, danfonwyd Charles, Frederic, a Henry i Goleg Dover yng Nghaint. Ar 24 Ionawr 1882, ganed chweched mab y Maughams, Edward Alan. Bu farw'r baban Edward trannoeth, a'r fam Edith ar 31 Ionawr. Yn sgil marwolaeth Robert Maugham ar 24 Mehefin 1884, plant amddifaid oedd William a'i frodyr. Teithiodd William yng nghwmni ei nyrs Ffrengig i Whitstable, Caint, i fyw dan warchodaeth ei ewythr o ochr ei dad, y Parchedig Henry MacDonald Maugham, a'i wraig Barbara Sophia von Scheidlin Maugham. Cafodd ei dderbyn i Ysgol y Brenin yng Nghaergaint, yr ysgol hynaf yn y byd, ym 1885, ac astudiodd yno am dair blynedd. Dioddefodd o bliwrisi yn niwedd 1888 a threuliodd y gaeaf yn Hyères, ar lannau'r Côte d'Azur, i wella ei iechyd. Penderfynodd dadgofrestru o Ysgol y Brenin, ac astudiodd yn Hyères am flwyddyn cyn iddo ddychwelyd i Whitstable yng ngwanwyn 1890.[3]

Yn niwedd yr haf neu hydref 1890, aeth William i Heidelberg yn yr Almaen, i ddysgu'r iaith Almaeneg mae'n debyg. Yno cyfarfu â John Ellingham Brooks, pianydd a chlasurydd Seisnig a oedd 11 mlynedd yn hŷn na William. Dylanwadwyd yn gryf ar ddiddordebau llenyddol William gan farnau chwaethus Brooks, a chafodd ei berthynas gyfunrywiol gyntaf gyda'r esthetwr hwnnw. Dychwelodd Maugham i Whitstable am y tro olaf yng ngwanwyn 1892. Treuliodd fis yn glerc erthygledig i gyfrifydd yn Llundain cyn iddo gofrestru fel myfyriwr meddygol yn Ysbyty Sant Tomas yn Lambeth ar 27 Medi 1892. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1894, aeth Maugham am dro yn yr Eidal am chwech wythnos, ac ym 1895 ymwelodd ag ynys Capri am y tro cyntaf.[3]

Tra'r oedd yn fyfyriwr, ym 1896, danfonodd Maugham ddwy stori, "A Bad Example" a "Daisy", at y cyhoeddwr T. Fisher Unwin. Ni chawsant eu cyhoeddi. Daliodd Maugham at ei astudiaethau, a threuliodd dair wythnos mewn profiad gwaith yn y ward obstetrig yn Ysbyty Sant Tomas.[4]

Gyrfa lenyddol gynnar (1897–1914)Golygu

Derbyniwyd ei nofel Liza of Lambeth gan T. Fisher Unwin a fe'i cyhoeddwyd ym 1897. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, llwyddodd yn ei arholiadau a rhoddwyd iddo'r tystysgrifau perthnasol i fod yn feddyg ac yn llawfeddyg. Cynigwyd iddo swydd yn ward obstetrig Sant Tomas, ond gwrthododd Maugham, a phenderfynodd ennill ei damaid drwy ysgrifennu, gan gyflogi'r asiant llenyddol William Morris Colles i'w gynrychioli. Aeth Maugham i Sbaen yn Rhagfyr 1897, ac oddi yno danfonodd ei ail nofel, The Making of a Saint (1898), i T. Fisher Unwin. Ymddangosodd ei stori fer gyntaf, "The Punctiliousness of Don Sebastian", yn y cylchgrawn teirieithog Cosmopolis yn Hydref 1898. Dychwelodd Maugham i Loegr, o Sbaen, yn Ebrill 1899. Y flwyddyn honno, cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, Orientations.[4]

Ym 1901, cyhoeddwyd gan wasg Hutchinson ei drydedd nofel, The Hero, a'r llyfr cyntaf ganddo i ddangos y symbol Mwraidd ar ei glawr. Dyma arwyddlun a ganfuwyd gan ei dad Robert ar daith i Ogledd Affrica ym 1880. Wedi marwolaeth Edith Maugham, adeiladodd Robert sialé yn y dull Swisaidd ar gopa bryn yn Suresnes, un o faestrefi gorllewinol Paris, a chanddo drem ar Afon Seine. Cafodd y symbol ei engrafu ar ffenestri'r tŷ newydd, ac yn ddiweddarach fe'i mabwysiadwyd yn arwyddlun gan ei fab William. Ymddengys y symbol Mwraidd ar glawr pob un gyfrol a gyhoeddwyd ganddo o 1901 hyd at ddiwedd ei oes, ar fynedfa'i fila yn Cap Ferrat, yn ddyfrnod i'r argraffiad cyflawn o'i weithiau, ar benawdau ei lythyrau, ac yn addurno'i geir, casys sigarennau, a llyfrau matsis.[5] Cyhoeddwyd ei nofel nesaf, Mrs Craddock (1902), gan William Heinemann, a fyddai'n brif gyhoeddwr Maugham am hanner can mlynedd a mwy.

Ar 3 Ionawr 1902, perfformiwyd ei ddrama Schiffbruchig, yn yr Almaeneg, ym Merlin.[4] Ym 1903 a 1905 cyhoeddwyd dau rifyn o The Venture, cyfnodolyn celf a llên a gydolygwyd gan Maugham a'r dramodydd Laurence Housman ac argraffwyd gan James Baillie yn Llundain. Yn y rhifyn cyntaf mae cyfieithiad Saesneg o Schiffbruchig dan y teitl Marriages Are Made in Heaven.[6] Ar 22 Chwefror 1903, perfformiwyd ei ddrama gyntaf i'r theatr Lundeinig, A Man of Honour, gan y Stage Society yn y Theatr Imperial, Westminster. Dyma'r ddrama hir gyntaf a ysgrifennwyd gan Maugham, a hynny yn Rhufain ym 1898. Tri pherfformiad a gafwyd yn unig, dau yn y nos ac un yn y prynhawn, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe'i lwyfannwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt. Adfywiwyd A Man of Honour, gyda diweddglo gwahanol, ar 18 Chwefror 1904 yn y West End, a estynnwyd am 28 o berfformiadau i gyd.[7] Ar 18 Chwefror 1904, hefyd, perfformiwyd y ddrama Mademoiselle Zampa, un o ddramâu Maugham na chawsant erioed eu cyhoeddi. Yn y cyfnod hwn, cafodd Maugham berthynas fer â'r nofelydd ffeministaidd Violet Hunt.[4]

Ar 27 Gorffennaf 1904, lladdodd Henry Neville Maugham ei hun drwy yfed potel o asid nitrig. Wedi angladd ei frawd, aeth Somerset Maugham i Baris yng nghwmni Harry Philips, myfyriwr o Brifysgol Rhydychen a fethodd ei arholiadau.[8] Yno cyfarfu Maugham â'r arlunydd Gerald Kelly. Dychwelodd Maugham i fwrw'r gaeaf yn Llundain, cyn symud yn ôl i fflat ym Mharis gyda Harry Philips yn Chwefror 1905. Bu'n cysylltu â nifer o lenorion ac arlunwyr alltud ym Mharis, gan gynnwys y nofelydd Arnold Bennett, y paentwyr James Wilson Morrice a Roderick O'Conor, a'r ocwltydd Aleister Crowley.[4] Treuliodd Maugham a Philips fisoedd Gorffennaf ac Awst 1905 yn Capri, yng nghwmni'r gymuned gyfunrywiol alltud ar yr ynys honno.[8] Yn Capri, penderfynodd Maugham ddiswyddo'i asiant llenyddol, William Morris Colles, a phenododd James Brand Pinker i'w gynrychioli.[4] Teithiodd Maugham i Wlad Groeg yn Ionawr 1906, ac i'r Aifft ym Mawrth. Yn Ebrill, dechreuodd perthynas Maugham â'r actores Ethelwyn Sylvia Jones, carwriaeth a barodd am saith mlynedd.[4]

 
Somerset Maugham ym 1911.

Ymwelodd Maugham ag Unol Daleithiau America am y tro cyntaf yn nhymor yr hydref 1910. Cyfarfu â Syrie Wellcome (ganed Gwendolyn Maude Syrie Barnado) ym 1911, ychydig fisoedd wedi iddi hi a'i gŵr, y dyn busnes Henry Wellcome, gytuno ar weithred ymwahaniad. Ym 1913 gwrthodwyd cynnig priodi Maugham i Ethelwyn Sylvia Jones, a throdd ei sylw felly at Syrie Wellcome fel gwraig ddichonol.[9]

Cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18)Golygu

 
Of Human Bondage (1915). Gwelir y symbol Mwraidd ar glawr y gyfrol.

Yn Hydref 1914 ymunodd Maugham â Phwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch, a chafodd ei atodi i fyddin Ffrainc ar Ffrynt y Gorllewin. Gweithiodd i ddechrau yn gyfieithydd, ac yn ddiweddarach yn yrrwr ambiwlans. Yn Fflandrys Ffrengig cyfarfu â'r Americanwr Gerald Haxton, aelod arall o uned ambiwlans y Groes Goch. Yn Chwefror 1915 dychwelodd Maugham i Loegr am fod Syrie Wellcome yn feichiog, ac yng Ngorffennaf aethant i'r Eidal er mwyn iddi esgor ar y plentyn. Yn Awst, cyhoeddwyd un o brif lyfrau Maugham, y nofel Of Human Bondage. Ar 1 Medi 1915, ganed Elizabeth Mary Maugham yn Rhufain.[9]

Yn niwedd Medi 1915, gadawodd Maugham y Groes Goch a fe'i cyflogwyd gan Swyddfa'r Cudd-wasanaeth (bellach MI6) i ysbïo yn y Swistir, hyd at haf 1916. Yn Chwefror 1916 cafodd Maugham ei enwi fel un o gariadon Syrie Wellcome pan wnaeth ei gŵr Henry gais am ysgariad. Penodwyd Gerald Haxton yn ysgrifennydd gan Maugham yn Nhachwedd 1916 ac aethant ar fordaith o Efrog Newydd i Hawaii, Samoa America, a Tahiti. Ar y llong, cyfarfu â brocer stoc o San Francisco o'r enw Bertram Alanson, a fyddai'n rheoli buddsoddiadau Maugham o 1922 i 1958. Wedi iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau, priododd Maugham â Syrie Wellcome yn Jersey City, New Jersey, ar 26 Mai 1917.[9]

Ym Mehefin 1917, cafodd Maugham ei recriwtio unwaith eto gan y cudd-wasanaeth ar orchwyl i Rwsia yn sgil y chwyldro. Gadawodd Lloegr ar 28 Gorffennaf, a bu yn Petrograd hyd at 18 Hydref 1917. Wedi iddo ddychwelyd o Rwsia, cafodd ei dderbyn i sanatoriwm twbercwlosis yn Banchory, yr Alban, yn Nhachwedd. Gadawodd y sanatoriwm yng ngwanwyn 1918, a dychwelodd yn nhymor yr hydref i dderbyn rhagor o driniaeth. Wedi'r gaeaf, cafodd Maugham ei ryddhau o'r sanatoriwm yn holliach.[9]

 
Tŷ Maugham yn 6 Chesterfield Street, Mayfair, Llundain, gyda phlac glas yn nodi iddo fyw yma o 1911 i 1919.

Teithiau a thrafferthion cartref (1919–29)Golygu

Ym Medi 1919, teithiodd Maugham i Efrog Newydd a Chicago ar ei ffordd i Tsieina, a bu yn y wlad honno nes Mawrth 1920. Yn ystod y daith, ymwelodd â Hong Kong, un o brif borthladdoedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn y Dwyrain Pell, yn Ionawr. Dychwelodd i Efrog Newydd yn Hydref 1920, ac ymwelodd hefyd â Los Angeles a San Francisco yng nghwmni Gerald Haxton (a gafodd ei ddyfarnu'n "estron annymunol" yn Chwefror 1919 a'i alltudio o'r Deyrnas Unedig am byth). Yn Chwefror 1921, cychwynnodd Maugham a Haxton ar daith i Hawaii, Awstralia, a Thaleithiau Ffederal Maleia.[9] Treuliasant y cyfnod o Fawrth i Awst 1921 yng Ngorynys Maleia.[10]

Ar 2 Chwefror 1922 cyfarfu Maugham, yng nghwmni Hugh Walpole a St. John Irvine, â'r awdur Americanaidd Sinclair Lewis am ginio bach yn Llundain. Canmolodd Maugham waith enwocaf Lewis, y nofel ddychanol Main Street (1920), fel llawlyfr i helpu'r Sais ddeall cymeriad yr Americanwr. Aeth Lewis ar gais Maugham i ddau ginio gwadd yn ddiweddarach y mis hwnnw. Meddwi a chwarae'r llabwst a wnâi Lewis, gan godi cywilydd ar y ciniawyr eraill. O ganlyniad i'w ymddygiad, rhoes Maugham y gorau i geisio ynydu Lewis yn aelod o gylchoedd cymdeithasol parchus y ddinas.[11]

Yn Hydref 1922, aeth Maugham a Haxton ar daith am naw mis i Dde Ddwyrain Asia. Aeth yn gyntaf i ynys Seilón, ac oddi Colombo ar gwch i Rangoon, Byrma. Ar y fordaith, clywodd Maugham oddi ar un o'r teithwyr eraill am dref farchnad Kengtung yn nwyrain Byrma, a oedd yn gymanfa a chroesfan i amryw genhedloedd a llwythau. Wedi iddynt gyrraedd Rangoon yn Nhachwedd, cychwynnodd Maugham a Haxton am Kengtung, taith a barodd 26 diwrnod. Oddi yno, croesiasant y ffin â Siam a daliasant drên i Bangkok, ym mha le bu Maugham yn dioddef malaria, gan beri seibiant yn y daith. Wedi iddo wella, ymwelodd Maugham a Haxton â rhai o brif ddinasoedd Indo-Tsieina Ffrengig: Pnompenh, Saigon, Hue, a Haiphong. Ymwelasant â phorthladdoedd Hong Kong a Shanghai cyn hwylio ar draws y Cefnfor Tawel i Vancouver yng Nghanada. Ysgrifennai Maugham yn fanwl am y profiadau hyn yn ei lyfr taith The Gentleman in the Parlour (1930).[12] Tynnai ar ei amser yn Hong Kong yn The Painted Veil (1925), sydd yn disgrifio dinas ddwyreiniol ystrydebol, llawn cymeriadau danbaid a than y geri marwol. Gwrthwynebodd llywodraeth Hong Kong bortread y nofel, a bu'n rhaid i Maugham roi'r ffugenw Tching-Yen ar y wladfa a oedd yn gefndir i'r stori.[13]

Wedi iddo ddychwelyd o'i deithiau i'r Dwyrain Pell, cyhoeddodd Maugham ragor o'i ddramâu ym 1923: Our Betters, Home and Beauty (a ysgrifennwyd ganddo yn sanatoriwm Banchory ym 1919 dan y teitl Too Many Husbands), a The Unattainable. Cynhyrchwyd ei ffars The Camel's Back yn Theatr Vanderbilt, Efrog Newydd, ar 13 Tachwedd 1923, y cyntaf o 15 o berfformiadau yno cyn ailagor y ddrama yn y Playhouse, yn y West End, ar 31 Ionawr 1924 am 76 rhagor o berfformiadau. Methiant a fu The Camel's Back oherwydd yr ystrydebau yn ei plot a'i dialog diflas, a na chawsai'r ddrama erioed ei chyhoeddi. Rhoes Maugham y bai am fyr oes y cynhyrchiad ar berfformiad yr actores Violet Kemble-Cooper yn y brif ran.[14]

Ym Medi 1924, aeth Maugham a Haxton ar fordaith o Lundain i Efrog Newydd – ym mha le cyfarfu â'r ffotograffydd Carl Van Vechten – ac oddi yno i Fecsico. Cyraeddasant Ddinas Mecsico yn niwedd Hydref, ac yno cyfarfu Maugham â'r nofelydd D. H. Lawrence a'i wraig Frieda. Byddai Lawrence yn defnyddio Mecsico yn gefndir i'w nofel The Plumed Serpent (1926), a nod Maugham wrth ymweld â'r wlad oedd hefyd i ganfod deunydd ar gyfer nofel. Wedi gwibdaith i Cuernavaca, yn nhalaith Morelos, dychwelodd Maugham a Haxton i Ddinas Mecsico am ginio â D. H. Lawrence a'i wraig, a'r archaeolegydd Americanaidd Zelia Nuttall.[15] Nid oedd Maugham a Lawrence yn hoff o'i gilydd: "A narrow-gutted ‘artist’ with a stutter" yw'r disgrifiad o Maugham a geir mewn un o lythyrau Lawrence.[16] Ymwelodd Maugham a Haxton â Veracruz a Yucatan cyn iddynt hwylio i La Habana, Ciwba, ac yna erbyn Ionawr 1925 i Gwatemala.[15]

Teithiodd Maugham i Faleia am yr eildro yn Hydref 1925, hyd at Ionawr 1926. Tynnai ar glecs a sgandalau y boblogaeth Brydeinig alltud yn ei straeon yn y casgliadau The Casuarina Tree (1926) ac Ah King (1933).[10] Yn ystod y streic gyffredinol ym Mai 1926, gweithiodd Maugham yn wirfoddol i'r Heddlu Metropolitan yn Scotland Yard. Yn Hydref, prynodd Maugham y Villa Mauresque yn Cap Ferrat, ger Nice, am $48,000.[17]

Ym 1928, wedi iddynt fyw ar wahân am ryw dair mlynedd, gwnaeth Syrie gais i lys yn Ffrainc am ysgariad oddi wrth Maugham. Ym Mai 1929, rhoddwyd caniatâd i Syrie gael ysgariad oddi wrth ei gŵr, a daeth y briodas i ben. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, collodd Syrie bron pob un geiniog oedd ganddi yn sgil cwymp Wall Street.[17]

Henwr hybarch byd llên (1930–54)Golygu

 
Gwawdlun o Somerset Maugham gan y cartwnydd David Low (dyddiad yn ansicr, ond cyn 1933 mae'n debyg).

Trobwynt yn ei yrfa (1930–38)Golygu

Ym 1930 cyhoeddodd Maugham ei ddeuddegfed nofel, ac un o'i brif weithiau, Cakes and Ale. Dyma waith arall o safbwynt yr adroddwr William Ashenden (personoliad Maugham), ac mae prif gymeriadau eraill y nofel yn seiliedig ar ffigurau eraill ym myd llên Lloegr. Byddai'n amlwg i nifer o ddarllenwyr bod yr awdur Edward Driffield yn cynrychioli'r diweddar Thomas Hardy, a bywgraffydd Driffield, Alroy Kear, yn seiliedig ar Hugh Walpole, a oedd yn gydnabod i Maugham. Mae'n debyg i gariad Maugham, yr actores Ethelwyn Sylvia Jones, fod yn fodel i'r wraig Rosie Driffield yn Cakes and Ale. Wrth ddarllen proflenni'r nofel, darganfu Walpole bod Kear yn bortread hunangeisiol a chynllwyngar o efe ei hun, cyhuddiad a gafodd ei wadu gan Maugham. O ganlyniad i'r cynnwrf a ysgogwyd gan y nofel, ysgrifennodd Elinor Mordaunt barodi o waith a bywyd Maugham o'r enw Gin and Bitters (1931), dan y ffugenw A. Riposte.[17]

Profai'r ymateb i Cakes and Ale fod Maugham yn un o enwau blaenaf byd llên yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, ac awdur hynod o doreithiog a phoblogaidd. Cyfarfu Maugham â'r brodyr Evelyn ac Alec Waugh yn Villa Mauresque, a T. S. Eliot yn Llundain, ym 1931, ac ag E. M. Forster yn ei gartref yn West Hackhurst, Surrey, ym 1932.[17] Cynhyrchodd Maugham lyfrau a dramâu yn gyson i ddifyrru darllenwyr a mynychwyr y theatr: y casgliadau o straeon Six Stories Written in the First Person Singular (1931), The Book Bag (1932), ac Ah King (1933), y nofel The Narrow Corner (1932), y llyfr taith The Gentleman in the Parlour (1930), a'r dramâu The Bread-Winner (1930) a For Services Rendered (1932). Parhaodd i deithio'n fynych, gan gynnwys i Ferlin yng nghwmni Haxton ym 1932 ac i Sbaen ym 1933.[17]

Ar 8 Mai 1933 perfformiwyd The Mask and the Face – addasiad Maugham o'r gomedi Eidaleg La Maschera e il Volto (1913, 1916) gan Luigi Chiarelli – yn Theatr 52nd Street, Efrog Newydd, gan gwmni'r Theatre Guild. Ni chafodd y ddrama ddychanol hon ei pherfformio yn Llundain, na chafodd ei chyhoeddi yn ystod oes ei hawdur.[18] Ar 14 Medi 1933 perfformiwyd Sheppey yn Theatr Wyndham, Ffordd Charing Cross, Llundain, dan gyfarwyddiaeth John Gielgud. Ysgrifennodd Maugham y ddrama hon ar sail ei stori fer "A Bad Example" (1899), a chafodd ei chyhoeddi gan William Heinemann ym 1933. Cafwyd 83 o berfformiadau o Sheppey cyn ei cau, a dyma oedd y ddrama olaf i Maugham ei ysgrifennu.[19] Wedi hynny, yn 59 oed, penderfynodd Maugham roi'r gorau i ysgrifennu i'r theatr a chanolbwyntiodd yn gyfan gwbl ar ryddiaith.

 
Ffotograff o Maugham ym 1934 gan Carl Van Vechten.

Ym 1934, gwahoddwyd Maugham i bwyllgor gwaith y PEN Club, y gymdeithas lenyddol ryngwladol a sefydlwyd gan Catherine Amy Dawson Scott ym 1921. Er iddo wrthod y gwahoddiad, cafodd ei ethol i'r pwyllgor. Ym 1935 teithiodd Maugham a Haxton i Guyane ac ymwelsant â'r wladfa gosb Saint-Laurent-du-Maroni. Teithiodd Maugham ar draws Ewrop o Fai i Orffennaf 1937, i Baris, gwledydd Llychlyn, a'r Almaen, ac ym 1938 i India.[20]

Cyfnod yr Ail Ryfel Byd (1939–45)Golygu

Yn sgil dechrau'r Ail Ryfel Byd, comisiynwyd Maugham gan Weinyddiaeth Wybodaeth y Deyrnas Unedig i ysgrifennu llyfr am ymdrech ryfel y Ffrancod. Yn Nhachwedd 1939 cychwynnodd ar dro am chwech wythnos i ymweld ag amddiffynfeydd ac amgloddiau Llinell Maginot, ar hyd y ffin rhwng Ffrainc a'r Almaen, yn ogystal â phencadlys y fyddin yn Nancy a phorthladd y llynges yn Toulon. Ffrwyth ei daith oedd y gyfrol fer France at War, a gyhoeddwyd gan Heinemann ym Mawrth 1940.[21]

Bu Maugham yn bwrw'r haf yn Villa Mauresque adeg Brwydr Ffrainc, a llwyddodd i ffoi i Loegr yn sgil cwymp Ffrainc i'r Almaenwyr yn niwedd Mehefin 1940. Yn Hydref, teithiodd Maugham i'r Unol Daleithiau ac yno treuliodd weddill y rhyfel gyda'i gariad ac ysgrifennydd Gerald Haxton. Daliodd at ei hen ffordd o fyw, gyda chefndir Americanaidd: teithiodd ar draws y wlad yn cymdeithasu ag enwogion y byd llenyddol, a chynhyrchodd lyfrau yn gyson ar gyfer ei gyhoeddwyr yn Llundain ac Efrog Newydd. Cyfarfu â Dorothy Parker yn Los Angeles ym 1941, a threuliodd dymhorau'r gwanwyn a'r haf y flwyddyn honno yn Hollywood. Yn Rhagfyr 1941, symudodd i dŷ ar ystâd y cyhoeddwr Nelson Doubleday yn Ne Carolina. Ym 1942, wedi i Haxton gael ei benodi gan yr OSS i swydd clerc yn Washington, D.C., aeth Maugham i fwrw'r haf ym Martha's Vineyard. Yn Nhachwedd, traddododd Maugham Ddarlith Goffa Franci Bergen ym Mhrifysgol Yale.[20]

Ym Mai 1944, cafodd Haxton driniaeth yn Doctors Hospital, Efrog Newydd, am dwbercwlosis a chlefyd Addison. Bu farw Haxton ar 7 Tachwedd 1944, wedi 28 mlynedd yn rôl ysgrifennydd-gymar Maugham. Dewisodd Maugham Lundeiniwr 40 oed o'r enw Alan Searle i fod yn ysgrifennydd-gymar iddo yn sgil marwolaeth Haxton, a chyrhaeddodd Searle yr Unol Daleithiau ar Ddydd Nadolig 1945.[22]

Y cyfnod wedi'r rhyfel (1946–54)Golygu

Ym Mehefin 1946, cyrhaeddodd Maugham Cap Ferrat am y tro cyntaf ers iddo ffoi Ffrainc ym 1940, a chychwynnodd efe a Searle ar waith atgyweirio'r Villa Mauresque.[22]

  Delweddau allanol
  Portread Graham Sutherland o Somerset Maugham (1949).

Ym 1949, eisteddodd Maugham i'r arlunydd Graham Sutherland gael tynnu ei lun. Cyfarfuasent rhyw ddengwaith, am eisteddiadau awr, er mwyn i Sutherland dynnu rhag-ddarluniau o Maugham. Mae'r portread o Maugham yn ei ddangos yn eistedd ar stôl fambŵ gyda chefndir euraid, yn debyg i liw gwisg y mynach Bwdhaidd, elfennau sydd yn cyfeirio at y Dwyrain Pell sydd yn gefndir i gymaint o'i nofelau a straeon byrion. Dyma'r paentiad cyntaf mewn cyfres o bortreadau o gyfeillion ac enwogion gan Sutherland.[23]

 
Somerset Maugham (ar ei eistedd) mewn cinio ym Mhafiliwn Whittall ar 11 Hydref 1950.

Derbyniodd Maugham ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Rhydychen ym 1952, ac ym Mehefin 1954 aeth i Balas Buckingham i dderbyn urdd Cydymaith Anrhydedd oddi ar y Frenhines Elisabeth II.[22]

Diwedd ei oes (1954–65)Golygu

Parhaodd Maugham i deithio yn ystod ei henaint, ac yn Ionawr 1956 aeth gyda Searle am dro o'r Aifft. Yn Ebrill 1956, gwahoddwyd Maugham i briodas Rainier III, tywysog Monaco, a Grace Kelly. Yn Ebrill 1959, ymwelodd Maugham â Llundain, München, Badgastein, Fienna, a Fenis, cyn iddo deithio i Japan yn Hydref. Derbyniodd Maugham wobr Cydymaith Llên o'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ym Mai 1961.[24]

Wrth iddo heneiddio a datblygu dementia, gwaethygodd berthnasau rhwng Maugham â'i deulu a chyfeillion, yn aml o ganlyniad i weithgareddau Alan Searle. Yn Ebrill 1962, gwerthwyd 35 o baentiadau o'r Villa Mauresque mewn ocsiwn gan arwerthwyr Sotheby's yn Llundain am $1,466,864. Cafodd Sotheby's ei erlyn gan Liza Maugham, bellach Elizabeth Hope, Y Farwnes Glendevon, a oedd yn hawlio $648,900 o werthiant paentiadau ei thad. Tua'r un cyfnod, llwyddodd Searle i ddwyn perswâd ar Maugham i werthu ei frasluniau hunangofiannol diweddaraf, Looking Back on Eighty Years, i bapur newydd y Sunday Express. Cyhoeddwyd Looking Back mewn rhannau yn y Sunday Express o Fedi i Hydref 1962, gan greu stŵr o ganlyniad i sylwadau a chyffesion yr awdur, yn enwedig ei sarhad ar gof ei gyn-wraig, Syrie Maugham. Bu rhwyg rhwng Maugham a Liza o ganlyniad i'w ddatgeliadau, a cheisiodd y tad erlyn y ferch i ddychwelyd yr holl anrhegion a roddwyd iddi. Yn Rhagfyr 1962, cafodd Searle ei fabwysiadu gan Maugham, gweithred a heriwyd yn y llys gan Liza. Yng Ngorffennaf 1963 dirymwyd y mabwysiad gan lys yn Ffrainc, ac ym 1964 cytunodd Liza y tu allan i'r llys i dderbyn $250,000 o'r arwerthiant yn Sotheby's. Er gwaethaf y rhwyg rhyngddynt, rhoddai Maugham y Villa Mauresque i'w ferch yn ei ewyllys yng Ngorffennaf 1964, tra derbyniai Searle £50,000, breindaliadau'r awdur, a holl gynnwys y fila.[24]

 
Somerset Maugham, pedwar diwrnod cyn ei farw, ar 12 Rhagfyr 1965.

Cafodd Maugham ei drin am niwmonia ym Mawrth 1965, ac yn Rhagfyr aeth i Ysbyty'r Anglo-American yn Nice. Yno, yn 91 oed, bu farw William Somerset Maugham ar 16 Rhagfyr 1965. Llosgwyd ei gorff ym Marseilles, a chladdwyd ei ludw ger Llyfrgell Maugham yn ei hen ysgol, Coleg y Brenin, Caergaint, ar 22 Rhagfyr.[24]

LlyfryddiaethGolygu

NofelauGolygu

  • Liza of Lambeth (Llundain: T. Fisher Unwin ,1897).
  • The Making of a Saint (Llundain: T. Fisher Unwin, 1898).
  • The Hero (Llundain: Hutchinson, 1901).
  • Mrs Craddock (Llundain: Heinemann, 1902).
  • The Merry-Go-Round (Llundain: Heinemann, 1904).
  • The Bishop's Apron (Llundain: Chapman & Hall, 1906).
  • The Explorer (Llundain: Heinemann, 1908).
  • The Magician (Llundain: Heinemann, 1908).
  • Of Human Bondage (Efrog Newydd: George H. Doran, 1915).
  • The Moon and Sixpence (Llundain: Heinemann, 1919).
  • The Painted Veil (Llundain: Heinemann, 1925).
  • Cakes and Ale: or, the Skeleton in the Cupboard (Llundain: Heinemann, 1930).
  • The Narrow Corner (Llundain: Heinemann, 1932).
  • Theatre (Llundain: Heinemann, 1937).
  • Christmas Holiday (Llundain: Heinemann, 1939).
  • Up at the Villa (Llundain: Heinemann, 1941).
  • The Hour Before the Dawn (Garden City, Efrog Newdd: Doubleday, Doran & Co., 1942).
  • The Razor's Edge (Llundain: Heinemann, 1944).
  • Then and Now (Llundain: Heinemann, 1946).
  • Catalina (Llundain: Heinemann, 1948).

Casgliadau o straeon byrionGolygu

  • Orientations (Llundain: T. Fisher Unwin, 1899).
  • The Trembling of a Leaf: Little Stories of the South Sea Islands (Efrog Newydd: George H. Doran, 1921).
  • The Casuarina Tree: Six Stories (Llundain: Heinemann, 1926).
  • Ashenden: Or the British Agent (Llundain: Heinemann, 1928).
  • Six Stories Written in the First Person Singular (Garden City, Efrog Newydd: Doubleday, Doran & Co., 1931).
  • The Book Bag (Efrog Newydd: Ray Long & Richard R Smith, 1932).
  • Ah King (Llundain: Heinemann, 1933).
  • The Judgement Seat (Llundain: Centaur Press, 1934).
  • Cosmopolitans (Garden City, Efrog Newdd: Doubleday, Doran & Co., 1936).
  • Princess September and the Nightingale (Rhydychen: Oxford University Press, 1939).
  • The Mixture as Before (Llundain: Heinemann, 1940).
  • The Unconquered (Efrog Newydd: House of Books, 1944).
  • Creatures of Circumstance (Llundain: Heinemann, 1947).
  • Quartet (Llundain: Heinemann, 1948).
  • Trio (Llundain: Heinemann, 1950).
  • Encore (Llundain: Heinemann, 1952).

DramâuGolygu

  • A Man of Honour (Llundain: Chapman & Hall, 1903).
  • Lady Frederick (Llundain: Heinemann, 1912).
  • Jack Straw (Llundain: Heinemann, 1912).
  • Mrs Dot (Llundain: Heinemann, 1912).
  • Penelope (Llundain: Heinemann, 1912).
  • The Explorer (Llundain: Heinemann, 1912).
  • The Tenth Man (Llundain: Heinemann, 1913).
  • Landed Gentry (Llundain: Heinemann, 1913).
  • Smith (Llundain: Heinemann, 1913).
  • The Land of Promise (Llundain: Bickers & Son, 1913).
  • The Unknown (Llundain: Heinemann, 1920).
  • The Circle (Llundain: Heinemann, 1921).
  • Caesar's Wife (Llundain: Heinemann, 1922).
  • East of Suez (Llundain: Heinemann, 1922).
  • Our Betters (Llundain: Heinemann, 1923).
  • Home and Beauty (Llundain: Heinemann, 1923).
  • The Unattainable (Llundain: Heinemann, 1923).
  • Loaves and Fishes (Llundain: Heinemann, 1924).
  • The Constant Wife (Efrog Newydd: George H. Doran, 1927).
  • The Letter (Llundain: Heinemann, 1927).
  • The Sacred Flame (Efrog Newydd: Doubleday, Doran & Co., 1928).
  • The Bread-Winner (Llundain: Heinemann, 1930).
  • For Services Rendered (Llundain: Heinemann, 1932).
  • Sheppey (Llundain: Heinemann, 1933).
  • The Noble Spaniard (Llundain: Evans Brothers, 1953).

Llyfrau taithGolygu

  • The Land of the Blessed Virgin: Sketches and Impressions in Andalusia (Llundain: Heinemann, 1905).
  • On a Chinese Screen (Llundain: Heinemann, 1922).
  • The Gentleman in the Parlour: A Record of a Journey From Rangoon to Haiphong (Llundain: Heinemann, 1930).
  • Don Fernando (Llundain: Heinemann, 1935).
  • My South Sea Island (Llundain: Heinemann, 1936).

CofiannauGolygu

  • The Summing Up (Llundain: Heinemann, 1938).
  • Strictly Personal (Garden City, Efrog Newdd: Doubleday, Doran & Co., 1941).
  • Looking Back on Eighty Years (cyhoeddwyd mewn wyth rhan yn y Sunday Express, 1962).

YsgrifauGolygu

  • Books and You (Llundain: Heinemann, 1940).
  • Great Novelists and Their Novels (Efrog Newydd: Winston, 1948). Cyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig dan y teitl Ten Novels and Their Authors (Llundain: Heinemann, 1954).
  • A Writer's Notebook (Llundain: Heinemann, 1949).
  • The Writer's Point of View (Llundain: Cambridge University Press, 1951).
  • The Vagrant Mood (Llundain: Heinemann, 1952).
  • Points of View (Llundain: Heinemann, 1958).

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Philip Hoare, "Obituary: Lady Glendevon", The Independent (30 Ionawr 1999). Adalwyd ar 29 Tachwedd 2020.
  2. Samuel J. Rogal, A William Somerset Maugham Encyclopedia (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 1997), t. xi.
  3. 3.0 3.1 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xii.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xiii.
  5. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 169.
  6. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 295.
  7. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 149.
  8. 8.0 8.1 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), tt. 216–7.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xiv.
  10. 10.0 10.1 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), tt. 48–9.
  11. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), tt. 133–4.
  12. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), tt. 102–3.
  13. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 94.
  14. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 17.
  15. 15.0 15.1 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 180.
  16. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 129.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 17.4 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xv.
  18. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 155
  19. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 252.
  20. 20.0 20.1 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xvi.
  21. Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. 56.
  22. 22.0 22.1 22.2 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xvii.
  23. (Saesneg) "'Somerset Maugham', Graham Sutherland OM, 1949", Tate. Adalwyd ar 17 Hydref 2020.
  24. 24.0 24.1 24.2 Rogal, Somerset Maugham Encyclopedia (1997), t. xviii.