Los Angeles Dodgers


Mae'r Los Angeles Dodgers yn dîm pêl fas proffesiynol Americanaidd wedi'i leoli yn Los Angeles, California. Maent yn cystadlu yng Nghynghrair Mwyaf Pêl Fas (MLB) yn glwb-aelod yn Adran Orllewinol y Gynghrair Genedlaethol (NL). Sefydlwyd ym 1883 yn Brooklyn, Efrog Newydd,[1][2] a symudodd y tîm i Los Angeles cyn y tymor 1958.[3] Chwaraeon nhw yn Coliseum Coffa Los Angeles am bedwar tymor, cyn symud i'w cartref presennol yn Stadiwm Dodgers ym 1962.[4]

Los Angeles Dodgers
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl fas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1884 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysNew York Metropolitans Edit this on Wikidata
SylfaenyddCharles H. Byrne Edit this on Wikidata
PencadlysLos Angeles Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthLos Angeles Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://losangeles.dodgers.mlb.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r Dodgers yn Stadiwm Dodgers
Jeff Pfeffer, 1916 Brooklyn Robins

Mae'r Dodgers wedi ennill chwe phencampwriaeth Cyfres y Byd a dau ddeg tri penwn y Gynghrair Genedlaethol. Mae un ar ddeg o enillwyr gwobrau chwaraewr mwyaf gwerthfawr (MVP) yr NL wedi chwarae i'r Dodgers, gan ennill cyfanswm o dair ar ddeg o Wobrau MVP. Mae'r deunaw enillydd Gwobr Rookie y Flwyddyn wedi chwarae i'r Dodgers, dwywaith cymaint â'r tîm agosaf nesaf, gan gynnwys pedwar yn olynol rhwng 1979 a 1982, a phump yn olynol rhwng 1992 a 1996.

Er eu bod yn enillwyr penwn y Gynghrair Genedlaethol yn nhymhorau 2017 ac yn 2018, collodd y Dodgers Cyfres y Byd yn 2017 ac yn 2018.

Hanes golygu

Yn gynnar yn yr 20g, pryd elwir y tîm y Brooklyn Robins, enillon nhw penynau'r cynghrair ym 1916 a 1920, ond collon nhw Cyfres y Byd y ddau dro, yn gyntaf i Boston ac yna Cleveland. Yn yr 1930au, newidiodd y tîm ei enw i'r Dodgers, a enwyd ar ôl y pedestriaid ym Mrooklyn a ochrgamwyd tramiau'r ddinas.[5] Ym 1941, cipiodd y Dodgers eu trydydd penwn y Gynghrair Genedlaethol, ond collon nhw i'r New York Yankees. Roedd hyn yn nodi dechrau'r ymryson Dodgers-Yankees, gan y byddai'r Dodgers yn eu hwynebu yn eu chwe ymddangosiad nesaf yng Nghyfres y Byd. O dan arweiniad Jackie Robinson, chwaraewr du cyntaf yr MLB yn yr oes fodern, cipiodd y Dodgers eu teitl Cyfres y Byd cyntaf ym 1955 trwy drechu'r Yankees am y tro cyntaf, stori a ddisgrifiwyd yn arbennig yn llyfr 1972 The Boys of Summer.

Yn dilyn tymor 1957 gadawodd y tîm Brooklyn am Los Angeles. Ond yn eu hail dymor yn Los Angeles, enillodd y Dodgers eu hail deitl Cyfres y Byd, gan guro'r Chicago White Sox mewn chwe gêm ym 1959. Wedi eu arwain gan arddull pitsio goruchafol Sandy Koufax a Don Drysdale, cipiodd y Dodgers dair penwn yn y 1960au ac ennill dau deitl Cyfres y Byd arall, gan curo'r Yankees mewn pedair gêm ym 1963, ac curo'r Minnesota Twins yn agos mewn saith ym 1965. Roedd lwyddiant 1963 yn erbyn y Yankees ond eu hail fuddugoliaeth yn eu erbyn, a'u cyntaf yn eu herbyn fel tîm yn Los Angeles. Enillodd y Dodgers bedair penwn arall ym 1966, 1974, 1977 a 1978, ond fe gollon nhw ym mhob Cyfres y Byd. Aethant ymlaen i ennill Cyfres y Byd eto ym 1981, diolch yn rhannol i'r pencampwr pitsio Fernando Valenzuela. Oherwydd hyn, cafodd y 1980au cynnar eu galw'n "Fernandomania." Ym 1988, arweiniodd arwr pitsio arall, Orel Hershiser, y tîm i fuddugoliaeth yng Nghyfres y Byd. Enillodd y Dodgers y penwn yn 2017 a 2018, ond fe gollon nhw Gyfres y Byd i'r Houston Astros a Boston Red Sox yn y drefn honno.

Mae'r Dodgers yn rhannu ymryson ffyrnig gyda'r San Francisco Giants, y hynaf ym mhêl fas, sy'n dyddio'n ôl i pan chwaraeodd y ddau tîm yn Efrog Newydd. Symudodd y ddau dîm i'r gorllewin ar gyfer y tymor 1958.[6] Mae'r Brooklyn Dodgers a Los Angeles Dodgers wedi chwarae yng Nghyfres y Byd 20 gwaith, tra bod y New York Giants a San Francisco Giants hefyd wedi chwarae 20 gwaith. Mae'r Giants wedi ennill dwy Gyfres y Byd yn fwy (8); mae'r Dodgers a'r Giants yn rhannu'r record o 23 penwn y Gynghrair Genedlaethol. Pan oedd y ddau dîm wedi'u lleoli yn Efrog Newydd, enillodd y Giants bum pencampwriaeth Cyfres y Byd, a'r Dodgers yn ennill un. Ar ôl symud i Califfornia, mae'r Dodgers wedi ennill pump, tra bod mae'r Giants ond wedi ennill tair.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dressed to the Nines uniform database". National Baseball Hall of Fame. Cyrchwyd 8 Hydref 2008.
  2. Bernado, Leonard; Weiss, Jennifer (2006). Brooklyn By Name: From Bedford-Stuyvesant to Flatbush Avenue, And From Ebbetts Field To Williamsburg. New York: New York University Press. t. 81.
  3. "Franchise Timeline - 1950s". Dodgers.com. MLB Advanced Media. Cyrchwyd 14 Mehefin 2018.
  4. "Ballparks". MLB.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-04-15.
  5. "Strange-but-true origin stories of 19 sports team names". USA Today. 9 Chwefror 2015. Cyrchwyd 25 Hydref 2015.
  6. "Baseball owners allow Dodgers and Giants to move". History (U.S. TV network). 21 Awst 2018.