Lough Erne
Dau lyn cysylltiedig yn Swydd Fermanagh, Gogledd Iwerddon yw Lough Erne (Gwyddeleg: Loch Éirne). Dyma'r system llynnoedd ail fwyaf yng Ngogledd Iwerddon a'r pedwerydd fwyaf yn Iwerddon gyfan. Ceir sawl hanesyn am Lough Erne ym mytholeg Iwerddon; mae'n debyg mae duwies Geltaidd - Ériu efallai - sy'n rhoi ei enw i'r llyn. Hyd y llyn mwyaf yw 26 milltir (42 km) gyda'r un llai yn ymestyn am 12 milltir (19 km).
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 105.1 km² |
Uwch y môr | 45 metr |
Cyfesurynnau | 54.4826°N 7.8062°W |
Hyd | 90 cilometr |
Mae'r llynnoedd yn rhan o Afon Erne, sy'n llifo oddi yno i Gefnfor yr Iwerydd. Mae'r llyn deheuol yn llai ac yn cael ei alw yn Lough Erne Uchaf (neu 'Deheuol'). Gelwir y llyn mwyaf yn Lough Erne Isaf (neu 'Gogleddol'). Gorwedd tref Enniskillen ar y rhan fer o afon sy'n cysylltu'r ddau lyn. Ceir 154 ynys a nifer o faeau bach ar y llynnoedd.
Cynhaliwyd 39ain Uwchgynhadledd yr G8 o 17 i 18 Mehefin 2013 yn Lough Erne Resort ar lan y llyn.