Lowri Evans

cantores gwerin o Gymru

Cantores Gymreig o Drefdraeth, Sir Benfro yw Lowri Evans.

Cerddoriaeth gwerin fodern sydd yn mynd a bryd y gantores. Ers graddio, mae Lowri wedi bod wrthi'n brysur yn rhyddhau recordiau ac yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bellach yn ffigwr amlwg yn y sîn gwerin traddodiadol mae'n ymddangos yn gyson ar lwyfannau prif wyliau Cymru a thu hwnt gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Wychwood, Oxjam Caerdydd, Gŵyl Gwerin Priddy, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Cenhedloedd Bychain, Gŵyl Acwstig Prydain a'r Llangollen Fringe.

Cafodd ei halbwm gyntaf Clyw Sibrydion ei ryddhau o dan label Rasp yn ystod 2006.

Ers hynny mae Lowri wedi rhyddhau dwy EP yn y Gymraeg sef Dim Da Maria a Disgleirio.

Yn 2010 cafodd Lowri ei enwebu ar gyfer 'artist benywaidd y flwyddyn' yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru.

Disgyddiaeth golygu

  • Clyw Sibrydion (2006)
  • Dim Da Maria EP
  • Disgleirio EP

Dolenni allanol golygu