Trefdraeth, Sir Benfro

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Trefdraeth[1][2] (Saesneg: Newport). Saif ar yr afordir yng ngogledd y sir. Mae'n wynebu Bae Ceredigion i'r gogledd-orllewin. Llifa Afon Nyfer i'r môr yn agos i'r pentref gan ffurfio aber llydan. Mae arwynebedd y gymuned hon yn 1,768 hectar. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae'n boblogaidd gyda ssyrffwyr, fel mannau eraill ar arfordir Penfro.

Trefdraeth
Trefdraeth o ben Carn Ingli
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPlougin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0198°N 4.8361°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000456 Edit this on Wikidata
Cod OSSN055395 Edit this on Wikidata
Cod postSA42 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Trefdraeth, Ynys Môn.
Clwb Achub Bywyd Arfordir Trefdraeth

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[4]

Hanes golygu

Trefdraeth yw un o'r bwrdeistrefi hynaf yng Nghymru, gyda'r castell yn sedd i Arglwydd Barwnol Cemais. Codwyd y castell yn 1195. Fe'i atgyweiriwyd yn 1859 a dyna pryd y codwyd yr adran annedd. Yn 1215, wedi derbyn ei Siarter, roedd gan Drefdraeth ei maer ei hun ac mae'r swydd yn dal mewn bodolaeth.

Ger y pentref mae cromlech Neolithig Carreg Coetan Arthur a Cherrig y Gof. Gellir cyrraedd bryngaer Carn Ingli (337m), sef un o nodweddion amlycaf yr ardal o'r pentref ei hun. O gopa'r mynydd hwn ceir golygfeydd arbennig o draeth y Parrog a Bae Trefdraeth a gellir gweld olion yr hen fryngaer sy'n dyddio'n ôl o Oes yr Haearn a bryngaer Carn Ffoi.[5]

 
Harbwr Trefdraeth yn 1885. Ffotograff gan John Thomas

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefdraeth, Sir Benfro (pob oed) (1,161)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefdraeth, Sir Benfro) (483)
  
42.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefdraeth, Sir Benfro) (748)
  
64.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trefdraeth, Sir Benfro) (285)
  
48.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Tachwedd 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. [Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 910
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]