Lowri a Siân Owen
dwy wrach honedig a oedd yn byw ger Pwllheli
Dwy wrach chwedlonol oedd Lowri a Siân Owen a oedd yn byw ger Pwllheli, Gwynedd.
Lowri a Siân Owen | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Yn ôl y chwedl, roedd Lowri a Siân Owen yn wrachod oedd yn byw mewn bwthyn bach o’r enw Pendorlan yn Llanarmon ger Pwllheli. Rhedai’r ddwy ohonynt ysgol mewn bwthyn o’r enw Dudwll ger Chwilog.
Roedd y ddwy yn gallu bwrw allan ysbrydion aflan a chythreuliaid trwy gynnal seremonïau. Gallai’r ddwy ragweld angen neu eisiau yn llanw a thrai’r môr.