Agor y brif ddewislen

Pwllheli

tref yng Ngwynedd (Sir Gaernarfon cyn 1974)

Tref hynafol yw Pwllheli ar arfordir deheuol Llŷn yng Ngwynedd, sy'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Bu'r porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y 19g. Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'. Mae Caerdydd 178.4 km i ffwrdd o Pwllheli ac mae Llundain yn 331.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 41.1 km i ffwrdd.

Pwllheli
Pwllheli'n dathlu ei Chymreictod - Pwllheli celebrates its Welshness - geograph.org.uk - 498624.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.88°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000098 Edit this on Wikidata
Cod OS SH374350 Edit this on Wikidata
Cod post LL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Y Maes; 1958; llun gan Geoff Charles

Mae Pwllheli yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Yn yr oedrannau 10-14 mae'r canran uchaf o bobol sydd yn gwybod yr iaith, sef 94%.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Hen fap (1834) o Bwllheli)

TrafnidiaethGolygu

Mae'r prif ffyrdd A497 a'r A499 yn rhedeg trwy'r dref. Mae'r A497 yn rhedeg yn orllewinol o Borthmadog i Bwllheli ac yna i'r gogledd at Nefyn, tra bod yr A499 yn brif ffordd Benrhyn Llŷn.

Terfynfa'r Rheilffordd Arfordir Cambria yw Gorsaf Rheilffordd Pwllheli, sydd yn rhedeg i Fachynlleth gyda gwasanaethau yn parhau i Amwythig a Birmingham. Mae'r orsaf yn cael ei weithredu a'i weini gan Trafnidiaeth Cymru]. Daeth y rheilffordd i Bwllheli yn 1867 gan ei chysylltu ag Aberystwyth a Chaernarfon. Ger Pwllheli, ym mhlwyf Penrhos, mae Penyberth, safle'r ysgol fomio a losgwyd mewn protest yn erbyn militariaeth gan Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine yn 1936.

Ceir hefyd safle tacsis wedi'i leoli tu allan i'r fynedfa i'r orsaf reilffordd.

Mae gwasanaethau bws yn y dref yn cael eu gweithredu gan Fysiau Arriva Cymru a Nefyn Coaches a gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r dref yn ogystal â gweddill yr ardal ehangach Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog & Trefor yn rhedeg gwasanaethau i Gaernarfon lle gall cysylltiadau gael eu gwneud i Fangor a'r ardal ehangach Gogledd Cymru. Mae gorsaf fysiau Pwllheli wedi ei leoli yng nghanol y dref, yn Y Maes.

ChwaraeonGolygu

Mae tref Pwllheli yn gartref i dîm pêl-droed C.P.D. Pwllheli a thîm rygbi'r undeb, Clwb Rygbi Pwllheli.

Eisteddfod GenedlaetholGolygu

EnwogionGolygu

Olion hynafolGolygu

Ceir Clwstwr cytiau caeëdig Clogwyn Bach gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pwllheli (pob oed) (4,076)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pwllheli) (3,092)
  
78.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pwllheli) (3161)
  
77.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pwllheli) (750)
  
39.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: