Lucius Tarquinius Superbus
Lucius Tarquinius Superbus (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC, bu farw 496 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr olaf o'r tri brenin Etrwscaidd a deyrnasodd ar Rufain.
Lucius Tarquinius Superbus | |
---|---|
Ganwyd | 6 g CC Rhufain hynafol |
Bu farw | 495 CC Cumae |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | King of Rome |
Tad | Gnaeus Tarquinius, Lucius Tarquinius Priscus |
Mam | Unknown, Tanaquil |
Priod | Tullia Major, Tullia Minor |
Plant | Sextus Tarquinius, Arruns Tarquinius, Tito Tarquinio, Tarquinia |
Llinach | Tarquin dynasty |
Roedd yn fab i bumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus. Wedi marwolaeth ei dad, cymerwyd yr orsedd gan Servius Tullius, a roddodd ei ddwy ferch mewn priodas i Lucius a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna Servius Tullius, a daeth Lucius yn frenin.
Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.