Etrwsciaid
Un o bobloedd canolbarth a gogledd yr Eidal a Corsica yn y cyfnod clasurol oedd yr Etrwsciaid (Lladin: Etrusci neu Tusci, Groeg Τυρρήνιοι (Tyrrhēnioi).
Gwahaniethir yr Etrswciaid gan iaith y credid nad oedd yn iaith Indo-Ewropeaidd a chelfyddyd nodweddiadol. Yng ngyfnod cynnar Teyrnas Rhufain, roedd tri chynghrair o ddinasoedd Etrwscaidd, yn Etruria, yn nyffryn Afon Po ac yn Latium a Campania. Roedd Rhufain ar ymylon tiriogaethau'r Etrwsciaid, ac mae tystiolaeth eu bod yn ddarostyngedig i'r Etrwsciaid hyd nes i'r Rhufeiniaid gipio Veii yn 396 CC.