Lucrezia Aguiari

soprano opera o'r Eidal

Soprano goloratwra o'r Eidal oedd Lucrezia Aguiari (174318 Mai 1783). Roedd ganddi lais anarferol o ystwyth gyda chwmpas mawr a oedd yn ymestyn ychydig yn fwy na thri wythfed a hanner.

Lucrezia Aguiari
Ganwyd1743 Edit this on Wikidata
Ferrara Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 1783 Edit this on Wikidata
Parma Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Ferrara, yn ystod ei hoes cyfeiriwyd ati'n aml fel "La Bastardina" neu "La Bastardella". Roedd ei henw da fel soprano yn ymestyn ar draws Ewrop. Ymddangosodd am y tro cyntaf ar y llwyfan yn Fflorens ym 1764. Ar ôl 1768 canodd yn rheolaidd yn llys y dug yn Parma o 1768, a hynny yn bennaf yn operâu y maestro di cappella (cyfarwyddwr cerdd) Giuseppe Colla (1731–1806), a briododd hi ym 1780.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.