Ludovico Vicentino degli Arrighi
Ysgrifennydd yn Llys y Pab a dylunydd teip yn ystod y Dadeni oedd Ludovico Vicentino degli Arrighi (tua 1475 – 1527?).
Ludovico Vicentino degli Arrighi | |
---|---|
Ganwyd | c. 1475 Cornedo Vicentino |
Bu farw | 1527 |
Galwedigaeth | teipograffydd |
Ychydig a wyddys am ei fywyd. Tua 1510 roedd yn llyfrwerthwr yn Rhufain. Erbyn 1515 fe'i cyflogwyd fel ysgrifennydd yn y Cancelleria Apostolica (adran Llys y Pab) yn 1513. Yn 1522 creodd bamffled dylanwadol ar lawysgrifen italig o'r enw La Operina, sef y llyfr cyntaf a neilltuwyd i ysgrifennu'r sgript cancelleresca corsiva. Argraffwyd y gwaith hwn o 32 o dudalennau gan gyfres o dorluniau. Hwn oedd y cyntaf o sawl gyhoeddiad o'r fath.
Trodd at argraffu yn 1523. Sefydlodd gwmni argraffu gyda'r ysgythrwr a'r argraffydd Lautizio Perugino (Lautizio di Bartolomeo dei Rotelli). Dyluniodd Arrighi ei deipiau italig ei hun ar gyfer ei waith; efelychwyd y rhain yn helaeth. Gwerthfawrogwyd y gweithiau a argraffwyd gan y cwmni yn fawr gan y cerflunydd Benvenuto Cellini. Dyddiwyd ei argraffiad olaf ychydig cyn Anrhaith Rhufain (6 Mai 1527), pan laddwyd ef, yn ôl pob tebyg.
Gweithiau
golygu- La operina di Ludouico Vicentino, da imparare di scriuere littera cancellarescha (Rhufain, 1522)
- Il modo de temperare le penne con le uarie sorti de littere ordinato per Ludouico Vicentino (Rhufain, 1523)
Dolenni allanol
golygu- La operina di Ludouico Vicentino, da imparare di scriuere littera cancellarescha, argraffiad cyntaf (1522) yn Llyfrgell y Gyngres
- Il modo de temperare le penne con le uarie sorti de littere ordinato per Ludouico Vicentino, argraffiad cyntaf (1523) yn Llyfrgell y Gyngres