Corff gweinyddol yr Eglwys Gatholig Rufeinig sy'n cyflawni grymoedd barnwrol, deddfwriaethol, a gweithredol y Pab yw Llys y Pab[1][2] (Lladin: Curia Romana). Lleolir yn Ninas y Fatican. Rhennir adrannau'r Llys yn gynulliadau, tribiwnlysoedd, a swyddogaethau. Gosodir grymoedd y Llys gan y gyfraith ganonaidd a dogfennau cysylltiedig, ac mae hanes a thraddodiadau'r Eglwys Babyddol hefyd yn sail i'w awdurdod.

Ymhlith y prif swyddfeydd mae Ysgrifenyddiaeth y Wladwriaeth, Synod yr Esgobion, Amgueddfeydd y Fatican, Banc y Fatican, a'r Gwarchodlu Swisaidd. Y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd (ynghynt Swyddfa Sanctaidd y Chwil-lys) yw'r prif gynulliad, sydd yn arolygu materion y ffydd, y Beibl, a'r holwyddoreg. Ceir cynulliadau eraill sydd yn ymwneud ag Eglwysi Catholig y Dwyrain, addoliad a'r sacramentau, canoneiddio, efengylu, yr offeiriadaeth a'r esgobion, ac addysg. Ymhlith y tribiwnlysoedd mae llysoedd eglwysig sydd yn ymwneud â maddeuebau, diddymu priodasau, ysgymuniadau, ac heresi a sgism. Y Rota yw goruchaf lys apêl yr Eglwys Gatholig Rufeinig a goruchaf lys eglwysig yr Esgobaeth Sanctaidd. Yn ogystal mae sawl comisiwn sydd yn arolygu materion megis etifeddiaeth ddiwylliannol, archaeoleg, ac America Ladin.[3]

O'r ganrif gyntaf hyd at yr 11g, clerigwyr Rhufain yn unig oedd aelodau'r presbyterium apostolicae sedis. Ymgynghorodd y Pab â'r offeiriaid a'r diaconiaid yng nghyfarfodydd y synod. O'r 6g ymlaen, cynigodd aelodaeth y synod i offeiriad y prif eglwysi a'r saith diacon yn Rhufain, a'r cardinaliaid cyntaf. Yn ystod yr 11g datblygodd y synod yn gonsistori, a'r cardinaliaid yn unig oedd ei aelodau. Gosododd y Pab Alecsander III reolau'r cyfarfodydd consistorïaidd ym 1170, ac ymhelaethodd pabau eraill, megis Pab Innocentius III, ar rymoedd y consistori.[4]

Datblygodd y Llys ei ffurf fodern ar ddiwedd yr 16g, pan osododd y Pab Sixtus V amodau a rheolau'r Llys yn ei fwl Immensa (1588). Cafodd y Llys ei ad-drefnu gan y Pab Pïws X yn ôl Côd y Gyfraith Ganonaidd 1917. Cychwynnodd y Pab Pawl VI ar ddiwygio'r Llys yn y 1960au i geisio moderneiddio'i ddulliau gweithredu. Rhoddwyd Ail Gôd y Gyfraith Ganonaidd ar waith ym 1983.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Curia].
  2.  llys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.
  3. Frank K. Flinn, Encyclopedia of Catholicism (Efrog Newydd: Facts On File, 2007), t. 624.
  4. (Saesneg) "Roman Curia" yn y New Catholic Encyclopedia (Gale, 2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 19 Ionawr 2017.
  5. (Saesneg) Roman Curia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2017.