Ludwig von Kahlen
Milwr a ffermwr o Ddenmarc oedd Ludwig (von) Kahlen (c.1700–1774). Mae'r ffilm "Bastarden" (2023) yn seiliedig ar ei brofiadau.[1] Ludwig Kahlen yw prif gymeriad nofel Ida Jessen, The Captain and Ann Barbara (2020), ac mae'r nofel yn trafod ei brosiect i drin rhostir.
Ludwig von Kahlen | |
---|---|
Ganwyd | 1700 |
Bu farw | 1774 |
Dinasyddiaeth | Denmarc Yr Almaen |
Galwedigaeth | landinspektør |
Cafodd Kahlen ei eni yn Lauenburg yn yr Almaen. Yn 1753 roedd yn gweithio fel is-gapten, ac roedd yn ymddiddori yn amaethu'r gweundir. Anfonodd sawl cynnig ar gyfer ariannu ffermydd rhostir i'r Rentekammeret, ond dim ond pan gyflwynodd gyfrifiadau manylach a oedd yn cynnwys gwladychwyr o'i ranbarth enedigol y cafodd ymateb. Cymeradwywyd ei gynnig gan Frederik V, brenin Denmarc. Rhoddodd y gorau i'w yrfa filwrol i ymsefydlu ar y rhos ac adeiladu tŷ iddo'i hun, a alwodd yn "Dŷ'r Brenin".[2]
Llwyddodd i dyfu tatws yn rhostir diffrwyth Jylland. Cyrhaeddodd gwladychwyr o'r Almaen yn 1759; roedden nhw eisiau dychwelyd adref ar ôl dim ond wythnos. Roedd Kahlen wedyn yn cyflogi gweision lleol, ond collon nhw ddewrder hefyd. Wedi wyth mlynedd o aredig a hau heb fawr o gynnyrch, rhoddodd y ffidil yn y to. Yn 1766, daeth yn gapten ar uned filwrol yn Fladstrand (Frederikshavn bellach), ac yno y bu farw yn 1774.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Keslassy, Elsa (2022-09-22). "Nikolaj Arcel's Epic Drama 'The Bastard' Assembles Stellar Nordic Cast for Zentropa". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ "Nine Men and a Mule". Trolderuterne (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Awst 2024.