Lugnaquilla
Copa uchaf Mynyddoedd Wicklow yw Lugnaquilla (Gwyddeleg: Log na Coille sy'n golygu "Cil y coed"). Lleolir y mynydd 926 meter (3,035 troedfedd) yn Swydd Wicklow, talaith Leinster, i'r gorllewin o dref Wicklow. Y lle mwyaf poblogaidd fel canolfan i'w ddringo yw Glenmalure.
Delwedd:Lugnaquilla north prison from Camara Hill (Wicklow, Ireland).jpg, Lugnaquilla from Glenmalure.jpg | |
Math | mynydd, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Wicklow ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 925 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.966°N 6.463°W ![]() |
Cod OS | T0321291778 ![]() |
Tarddiad | River Slaney ![]() |
Amlygrwydd | 905 metr ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Wicklow ![]() |
![]() | |
Ar ddiwrnod braf gellir gweld bryniau Eryri a Llŷn dros y môr i'r dwyrain o'i gopa.