Lutry
Tref a commune yn y Swistir ar lannau gogleddol Llyn Genefa yw Lutry. Mae'n perthyn i ardal Lavaux yn canton Vaud, a lleolir 5 km i'r de-ddwyrain o brifddinas y canton Lausanne. Ei phoblogaeth yw 8662 o drigolion (amgangyfrif 31 Rhagfyr 2005). Ar ddechrau'r 20g roedd hi'n dref ffarmio, ond heddiw mae llawer o'r trigolion yn teithio i Lausanne i weithio. Mae cynhyrchu gwin yn dal yn bwysig: mae gwinoedd appellation Lutry ac appellation Villette yn dod o'r ardal, ac dathlir gŵyl y Fête des Vendanges ar ddiwedd y cynhaeaf grawnwin.
![]() | |
![]() | |
Math |
bwrdeistref y Swistir ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
10,289 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Jacques-André Conne ![]() |
Gefeilldref/i |
Sigriswil ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Ffrangeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Vaud, Lavaux-Oron District ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
8.46 km² ![]() |
Uwch y môr |
383 metr, 597 metr ![]() |
Gerllaw |
Llyn Léman ![]() |
Cyfesurynnau |
46.5°N 6.68°E, 46.51508°N 6.69902°E ![]() |
Cod post |
1095 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
mayor of Lutry ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Jacques-André Conne ![]() |
![]() | |
Hanes y drefGolygu
Darganfuwyd 24 o feini hirion o'r Oes Haearn yn Lutry yn ystod gweithiau adeiladu maes parcio ym 1984. Mae hyn yn awgrymu i safle gael ei aneddu 4500-4000 o flynyddoedd CC. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y dref (fel Lustriacum) yn dyddio i 516. Cafwyd ffurfiau eraill ar yr enw yn ystod yr Oesoedd Canol: Lustraco (907), Lustriei (1147), Lustrey (1160), Lustrie (1213) a Lustriez (1536). Defnyddiwyd y ffurf gyfoes (fel Lutri) am y tro cyntaf ym 1849. Mae'r hen dref ganoloesol mewn cyflwr da gyda'i strydoedd cul a hen dai o'r bymthegfed i'r 18g. Dim ond y Tour du Bourg-Neuf sy'n aros o hen furiau a phyrth y dref.
Treuliodd yr ysgrifennwr Cymraeg Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) gyfnod yn Lutry yn dysgu Saesneg mewn ysgol breifat.
Dolenni allanolGolygu
Gwefan y dref (Ffrangeg)