Lwnwla Llanllyfni

Mae Lwnwla Llanllyfni yn aur, a ddarganfuwyd yn Llanllyfni, Gwynedd, Cymru ond a gedwir bellach gan yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, Lloegr. Mae'n dyddio o 2400CC-2000CC.

Lwnwla Llanllyfni

Hanes golygu

Mae'r lwnwla wedi'i wneud o aur addurnedig ac wedi'i ddyddio i 2200-2000 CC ac mae'n un o'r addurniadau aur cynharaf o Gymru.[1] Mae amcangyfrifon eraill yn awgrymu 2400-2000 CC o'r Oes Neolithig Ddiweddar neu'r Oes Efydd Cynnar.[2] Y lwnwla yw'r lwnwla trymaf o ynysoedd Prydain ac Iwerddon, gan bwyso 185g. [3]

Mae'n debyg mai darn seremonïol ydoedd. Mae lwnwlas yn ddarganfyddiadau cyffredin yn Iwerddon ac mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod llu o lwnwlas Gwyddelig wedi eu gwneud o aur o Gernyw. Mae'r addurniadau ar lwnwla Llanllyfni yn debyg i addurn llawer o lestri crochenwaith Bicer o Gymru. Ceir tri math o lwnwla yn ôl archeolegwyr: lwnwla clasurol, lwnwla anorffenedig, a lwnwla taleithiol (classical, unaccomplished, provincial). Lwnwla o'r math 'talaithiol' yw hwn.[1]

Daethpwyd o hyd i’r lwnwla mewn cors ar fferm Llecheiddior-uchaf ger Dolbenmaen tua 1869. Sylwodd ffermwr ar yr hyn yr oedd yn ei feddwl oedd yn ddeilen lawryf felen yn ymddangos o'r mawr. Yn anfodlon ar ei esboniad ei hun, dychwelodd yn ddiweddarach a dadorchuddio'r lwnwla yn llawn.[3][4]

Cafodd yr amgueddfa Brydeinig y lwnwla yn 1869 ar ôl ei brynu gan Griffith H Owen.[2]

Dychwelyd i Gymru golygu

Mae galwadau wedi bod i ddychwelyd arteffactau Cymreig yn ôl i Gymru o amgueddfeydd Lloegr. Mae Lwnwla Llanllyfni ymhlith arteffactau Cymreig nodedig sy'n cael eu cadw gan yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, Lloegr.[5]

Hanes arddangos golygu

  • Mehefin 2018 - presennol, Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ar fenthyciad hirdymor Making History[2]
  • 1979 - 2014, Caerdydd, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Gwreiddiau - Canfod y Gymru Gynnar, benthyciad hirdymor[2]
  • 25 Gorff-5 Medi 1964, Abertawe, Oriel Gelf Glynn Vivian, Celf yng Nghymru[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Early Bronze Age gold lunula". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "lunula". britishmuseum.org.
  3. 3.0 3.1 "Gold object of the week No. 2". National Museums Scotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  4. "Stunning gold relic unearthed in Gwynedd". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-17.
  5. "Buried treasure: calls for important Welsh artefacts to be brought back home". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2021-09-25. Cyrchwyd 2023-01-17.

Dolen allanol golygu