Lydia Flood Jackson
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Lydia Flood Jackson (6 Mehefin 1862 - 8 Gorffennaf 1963) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel person busnes ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.[1][2]
Lydia Flood Jackson | |
---|---|
Ganwyd | 6 Mehefin 1862, 1862 Oakland |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1963, 1963 Oakland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | person busnes, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Mam | Elizabeth Thorn Scott Flood |
Fe'i ganed yn Brooklyn, California (heddiw: "Oakland") ar 6 Mehefin 1862 a bu farw yno hefyd.[3][4][5][6]
Cefndir y teulu
golyguEi mam oedd Elizabeth Thorn Scott a'i thad oedd Isaac Flood; priododd y ddau yn 1855. Ganwyd Elizabeth Thorn Scott yn 1828 yn Efrog Newydd ac fe'i haddysgwyd yn New Bedford, Massachusetts.[1][7]
Yn y 1950au, gwaharddwyd plant Affro-Americanaidd rhag mynychu ysgolion cyhoeddus, felly cymerodd Scott ar ei phen ei hun i sefydlu ysgol gyntaf Sacramento ar gyfer plant du yn ei chartref ar 29 Mai 1854. Derbyniwyd yr ysgol i ardal ysgol Sacramento, ond heb gyllid a dim ond fel ysgol ar wahân i bobl du. Bu'n dysgu yma nes iddi briodi tad Flood, sef Isaac Flood. Ganed tad Flood Isaac Flood yn gaethwas yn Ne Carolina ym 1816. Prynodd ei ryddid a symud i'r gorllewin i Galiffornia yn ystod y Rhuthr Aur (Gold Rush) lle bu'n gweithio fel labrwr a masnachwr.[8][9][9][10]
Gwnaeth Isaac Flood ei ffortiwn yn prynnu a gwerthu eiddo a thir yn yr ardal ac roedd y ddau ohonynt yn eiriolwyr dros hawliau sifil ac addysg Affricanaidd America. Cynorthwyodd y ddau i godi Eglwys Esgobol Methodistaidd Affricanaidd Shiloh (AME) yn 1858. Yn 1857, cawsant fab o'r enw George Francis Flood sy'n cael ei ystyried yn "blentyn lliwg cyntaf" Oakland.[8][9][10] Yn yr un flwyddyn, sefydlodd Scott ysgol breifat arall o'u cartref yn 1334 Stryd y 15fed Dwyrain ar gyfer Americanwyr Affricanaidd a phlant nad oeddent yn wyn, gan gynnwys Lydia Flood.[2][8] Ymrwymodd Isaac Flood i hyrwyddo hawliau sifil i Americanwyr Affricanaidd ac roedd yn rhan o 'Symudiad Confensiwn Lliw California' i ymladd yn erbyn gwahanu plant oherwydd lliw eu croen, mewn ysgolion yng Nghaliffornia.[2][9]
Oherwydd ei eiriolaeth a'i benderfyniad, Lydia Flood oedd y myfyriwr Affro-Americanaidd cyntaf i fynychu Ysgol John Swett (integredig) yn 1872.[2][8] Parhaodd ei haddysg yn nosbarthiadau nos Ysgol Uwchradd Oakland - tan iddi gyrraedd Blwyddyn 6.[11] Yna, priododd William Jackson.[2][12]
Yr ymgyrchydd
golyguParhaodd Lydia Flood Jackson gydag ymgyrch ei theulu i ymladd dros hawliau sifil Affro-Americaniaid ac roedd hefyd yn hyrwyddwr hawliau menywod. Roedd yn ferch a oedd yn gweithredu yn ogystal â dadlau dros ei chred. Ymgymrodd a nifer o swyddi fel cadeirydd cymdeithasau megis Ffederasiwn Clybiau Menywod Lliw Califfornia a bu'n aelod o Glwb Fppie Jackson Coppin am bedwar-deg-dwy flynydd a Chlwb y Merch Brodorol. [13]
Yn ei chyfarfod gyntaf o'r Ffederasiwn Clybiau Menywod Lliw Califfornia, galwodd am etholfraint (sef yr hawl i ferched bleidleisio). Talodd deyrnged hefyd i'r swffragetiaid a oedd wedi paratoi'r tir o'i blaen.
Roedd yn weithredwr gwleidyddol a theithiodd i nifer o wledydd, gan gynnwys Mecsico, De America ac India'r Gorllewin er mwyn hyrwyddo ei syniadau.
Busnes
golyguLlwyddodd i sefydlu busnes creu sebonau ac arogl da a chynnyrch eraill i ferched, dan y brand "Flood Toilet Creams" .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Lydia Flood Jackson funeral program | Oakland Public Library Digital Collections". oakland.access.preservica.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-14. Cyrchwyd 2019-04-12.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Wagner, Tricia (16 Gorffennaf 2007). "Lydia Flood Jackson (1862-1963)". BlackPast (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-04-12.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Dyddiad geni: https://documents.alexanderstreet.com/d/1007600750. dyddiad cyrchiad: 9 Medi 2019.
- ↑ Dyddiad marw: https://documents.alexanderstreet.com/d/1007600750. dyddiad cyrchiad: 9 Medi 2019.
- ↑ Grwp ethnig: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.
- ↑ Durham, David L (1998). California's geographic names: a gazetteer of historic and modern names of the state (yn English). Clovis, Calif.: Word Dancer Press. ISBN 9781884995149. OCLC 38389700.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Lazard, Dorothy (March 20, 2018). "Elizabeth Scott Flood: Early Oakland Educator | Oakland Public Library". www.oaklandlibrary.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-31. Cyrchwyd 2019-03-12.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 Gatewood, Jr, Willard B. (2000). Aristocrats of color : the Black elite, 1880-1920. Fayetteville: University of Arkansas Press. ISBN 9781610750257. OCLC 1003856507.
- ↑ 10.0 10.1 Heyliger, Sean (August 15, 2013). "Guide to the Flood Family Papers". Online Archive of California. Cyrchwyd 2019-03-13.
- ↑ "1940 United States Federal Census". www.ancestry.com. Cyrchwyd 2019-03-13.
- ↑ Camilleri, Angelina, Angelina Lopez, Stephen Martin and Marinela Tupa (2016). "Biographical Sketch of Lydia Flood Jackson". Alexander Street. Cyrchwyd 2019-04-12.
- ↑ Galwedigaeth: https://documents.alexanderstreet.com/c/1007600702.