Lyn Lewis Dafis

Offeiriad a llyfrgellydd o Gymro

Offeiriad a llyfrgellydd o Gymro oedd y Parchedig Lyn Léwis Dafis (11 Awst 196015 Mawrth 2022).

Lyn Lewis Dafis
Ganwyd11 Awst 1960 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllyfrgellydd, offeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Magwyd Lyn yn Mynachlog-ddu, Sir Benfro, a mynychodd ysgol gynradd y pentref cyn symud i Ysgol y Preseli yng Nghrymych. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio gyda BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn 1981.[1]

Llyfrgellydd golygu

Y ddiweddarach cafodd gymhwyster ôl-radd mewn llyfrgellyddiaeth yn yr Adran Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn Llanbadarn Fawr ar ôl cyfnod yn gweithio i Lyfrgelloedd Dyfed. Wedi hynny gweithiodd i wasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Morgannwg Ganol. Ar 17 Ebrill 1989 fe'i apwyntiwyd fel Curadur Cynorthwyol yn yr Adran Printiadau, Mapiau a Lluniau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Gweithiodd yn yr Uned Digideiddio a Metadata o Dachwedd 2006 gan ddod yn Bennaeth Uned Datblygu Digido'r Llyfrgell yn Ebrill 2009. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n goruchwylio sawl prosiect arloesol megis digido casgliadau eang ffotograffiaeth a chyfnodolion y Llyfrgell gan wneud y rhain ar gael i gynulleidfa fyd-eang, a thrawsnewid proffil traddodiadol y darllenydd a’r defnyddiwr.[2]

Gweinidogaeth golygu

Er iddo gael ei fagu yn nhraddodiad y Bedyddwyr, daeth Lyn yn gymunwr rheolaidd yn Eglwys y Santes Fair (Anglicanaidd) yn Aberystwyth. Datblygodd i fod yn ddarllenydd lleyg gwerthfawr. Er ei yrfa lewyrchus yn y Llyfrgell, tyfodd ei dynfa yn gryfach i’r weinidogaeth.

Ymddiswyddodd o'i swydd yn y Llyfrgell ym mis Hydref 2014 ac aeth i hyfforddi yng Ngholeg Sant Mihangel, Llandaf, am y weinidogaeth Anglicanaidd. Wedi graddio gyda diploma mewn diwinyddiaeth, fe’i urddwyd fel diacon yn 2015 ac offeiriad yn 2016 gan Esgob Wyn yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a’i apwyntio fel Curad Cynorthwyol ym Mywoliaeth Grŵp Llanbadarn Fawr, Elerch, Penrhyn-coch a Chapel Bangor. Ym mis Gorffennaf 2021, mewn gwasanaeth yn Eglwys Llanbadarn Fawr, trwyddedwyd Lyn yn Swyddog Esgobaethol dros y Gymraeg a Dwyieithrwydd ac yn Offeiriad â gofal yn Ardal Weinidogaethol Leol Bro Padarn.[2]

Awdur a sylwebydd golygu

Roedd Lyn yn ddarlledwr cyson ar Radio Cymru - yn un o gyfranwyr Munud i Feddwl ac yn sylwebydd ar faterion yr Eglwys yng Nghymru ar raglen Bwrw Golwg.

Bu hefyd yn golofnydd i'r cylchgrawn Barn ac yn olygydd cylchgrawn Y Llan - wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru. Roedd hefyd yn golygu cylchlythyr wythnosol digidol Bro Padarn ac yn cyfrannu’n rheolaidd at gylchgrawn esgobaethol Pobl Dewi.

Bu'n blogio am flynyddoedd lawer o dan yr enw Dogfael.

Bywyd personol golygu

Roedd yn byw ym Mhenrhyncoch, Aberystwyth. Fe'i urddwyd i'r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 2002.

Wedi profi problemau iechyd ers rhai blynyddoedd bu farw yn 61 mlwydd oed yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.[3]

Roedd yn frawd i Mandy a Robert ac yn ewythr i Sara a Dion. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd preifat yn Amlosgfa Aberystwyth fore Sadwrn, 26 Mawrth 2022, a gwasanaeth coffa cyhoeddus am 2 o'r gloch yn Eglwys Llanbadarn Fawr.[4] Cleddir ei lwch yn Eglwys Penrhyn-coch.

Teyrngedau golygu

Dywedodd prif weithredwr y llyfrgell, Pedr ap Llwyd, y bydd yn "gadael bwlch enfawr ar ei ôl."

Cafwyd teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol gan Andrew Green, prif weithredwr y Llyfrgell tra’r oedd Lyn Lewis Dafis yn gweithio yno, yn ategu bod y newyddion yn "drist ofnadwy," a’i fod yn "ddyn hynaws, gwybodus, egwyddorol, ac yn gyfaill i lawer iawn."

Dywedodd y Parchedig Ganon Andrew Loat, a fu’n cydweithio â Lyn Lewis Dafis, wrth golwg360:

"Roedd pawb yn bwysig i Lyn. Nid yn unig yn yr eglwys, ond yn yr holl gymuned hefyd. Roedd e’n hoff iawn o’i waith gyda’r ysgolion a gweithio gyda phlant. Roedd e’n ofalgar o bob un. Roedd e’n ddyn llawn hiwmor hefyd, ac yn ddeallus iawn. Roedd e’n darllen cymaint o lyfrau, ac roedd cymaint o wahanol bynciau ac ieithoedd o ddiddordeb iddo."

Cyfeiriadau golygu

  1. "Teyrngedau'n cael eu rhoi i'r Parchedig Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn 61 oed". Golwg360. 2022-03-15. Cyrchwyd 2024-03-15.
  2. 2.0 2.1 "Y Parchg Lyn Léwis Dafis (1960-2022)" (PDF). Cyrchwyd 2024-03-15.
  3. "Teyrngedau i Lyn Lewis Dafis sydd wedi marw yn 61 oed". BBC Cymru Fyw. 2022-03-15. Cyrchwyd 2024-03-15.
  4. "Click here to view the tribute page for Lyn Lewis DAFIS". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-15.

Dolenni allanol golygu