Ysgol gyfun gymunedol, ddwyieithog yw Ysgol y Preseli,[2] Fe'i lleolir yng Nghrymych, gogledd Sir Benfro. Yn 2008 dathlodd yr ysgol ei phen-blwydd yn 50 oed. Mr Michael Davies yw'r prifathro presennol.

Ysgol y Preseli
Arwyddair Cofia Ddysgu Byw
Sefydlwyd 1958
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mrs Rhonwen Morris
Dirprwy Bennaeth Mrs Carwen Morgan-Davies
Cadeirydd Mr Cerwyn Davies
Lleoliad Crymych, Sir Benfro, Cymru, SA41 3QH
AALl Cyngor Sir Benfro
Disgyblion 958[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.ysgolypreseli.com
Ysgol y Preseli

Daw'r disgyblion i'r ysgol o tua 30 o ysgolion cynradd: tua mil ohonynt, gan gynnwys tua 170 yn y chweched dosbarth; mae hyn yn gynnydd o tua 40% ers arolygiad 1997. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn aros ymlaen yn y chweched dosbarth ar ôl cwblhau eu harholiadau TGAU.[2]

Mae pob disgybl yn siarad Cymraeg er mai dim ond 30% o'r disgyblion sydd o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith y cartref. Addysgir pob pwnc ar wahân i fathemateg a gwyddoniaeth hyd at lefel TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae theatr, canolfan hamdden, meysydd chwarae, llyfrgell a chanolfan iechyd i'w cael yn yr ysgol, caiff y cyfleusterau eu defnyddio gan y gymuned yn ogystal â'r ysgol ei hun.[2]

Ar 13 Ebrill 2006, fe ddiarddelwyd yr athrawes fathemateg, Helen Bowen o'r ysgol am 'wella' gwaith cwrs TGAU. Diswyddwyd hi'n dilyn cael ei chanfod yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniadwy gan banel y Cyngor Addysgu Cyffredinol, cafodd ei thrwydded dysgu ei ddiarddel am bedair blynedd.[3]

Yn Hydref 2020, cadarnhaodd y pennaeth Michael Davies ei ymddeoliad, ac o ganlyniad, penodwyd Mrs Rhonwen Morris fel pennaeth, gan ei gwneud hi yn y pennaeth benywaidd cyntaf i'r ysgol ei gael yn ei hanes.[4]

Cyn-ddisgyblion Nodedig

golygu
Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol y Preseli

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cyngor Sir Befro Adalwyd ar 24-07-2009
  2. 2.0 2.1 2.2  YR YSGOL A'I BLAENORIAETHAU.
  3.  Four-year ban for 'cheat' teacher" (17 Gorffennaf 2007).
  4. "Penodwyd Pennaeth Newydd yn Ysgol y Preseli". www.sir-benfro.gov.uk. 2020-10-29. Cyrchwyd 2020-10-30.
  5. "Y wefr o ddarlledu o'r Tŷ Gwyn i newyddiadurwr o Sir Benfro". BBC Cymru Fyw. 2020-10-20. Cyrchwyd 2020-10-20.

Dolenni allanol

golygu