Môr Azov
môr
Môr sy'n cysylltu â'r Môr Du yw Môr Azov (Rwseg: Азо́вское мо́ре - Azovskoye more; Wcreineg: Азо́вське мо́ре - Azovs'ke more). Saif i'r gogledd o'r Môr Du, yn cysylltu ag ef trwy Gulfor Kerch. Mae'r Wcráin i'r gogledd iddo, Rwsia i'r dwyrain, a Gorynys y Crimea i'r gorllewin.
Math | môr, bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Du |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 37,600 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea |
Cyfesurynnau | 46°N 37°E |
Hyd | 340 cilometr |
Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw afon Don ac afon Kuban. Y prif borthladdoedd yw Rostov-na-Donu, Taganrog, Zhdanov, Kerch a Berdyansk.