Môr Kara
môr
Môr sy'n rhan o Gefnfor yr Arctig yw Môr Kara (Rwseg: Ка́рское мо́ре). Fe'i gwahenir iddi wrth Fôr Barents yn y gorllewin gan Gulfor Kara a Novaya Zemlya, ac oddi wrth Fôr Laptev yn y dwyrain gan y Severnaya Zemlya.
Math | môr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Kara |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 77°N 77°E |
Mae Môr Kara tua 1,450 km o hyd a 970 km o led, gydag arwynebedd o tua 880,000 km². Gorchuddir ef a rhew am tua naw mis o'r flwyddyn. Mae gan ardaloedd Crai Krasnoyarsk ac Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets arfordir eang ar lan Môr Kara.