Maen Madog
Carreg Gristionogol gynnar gydag arysgrif Ladin arni yw Maen Madog, sy'n sefyll ger llwybr hen ffordd Rufeinig ger Ystradfellte, de Powys. cyfeiriad grid SN918157
Math | maen hir, carreg arysgrifenedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.830162°N 3.570566°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR018 |
Disgrifiad a hanes
golyguColofn dal denau o hen dywodfaen coch yw Maen Madog. Mae'n sefyll wrth ymyl ffordd Rufeinig a adnabyddir yn lleol fel "Sarn Helen". Ar ei ymyl de-orllewinol ceir arysgrif Ladin wedi'i cherfio ar ei hyd sy'n darllen:
- DERVAC—FILIUS
- IUST—(H)IC IACIT
Sef:
- Carreg Dervacus mab Justus.
- Yma mae'n gorwedd.
Digon amrwd yw'r gwaith cerfio gyda rhai llythrennau wedi eu gosod o'r chwith, sy'n awgrymu fod y saer maen yn anghyfarwydd ag ysgrifen Ladin.
Mae'n debyg mai cofgolofn bersonol ydyw, yn dyddio o rywbryd yn y cyfnod is-Rufeinig (ceir gwersyll Rhufeinig gerllaw) neu'r Oesoedd Canol Cynnar pan roedd y rhan yma o'r wlad yn rhan o Deyrnas Brycheiniog.
Cafodd y garreg ei symud tua 5 medr o'i safle gwreiddiol yn y 19g a'i gosod ar blatfform o gerrig. Ni chafwyd bedd Dervacus ac mae'n bosibl felly fod y garreg yn gofgolofn yn unig yn hytrach na beddfaen.
Ffynhonnell
golygu- Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995).