Geisha
Mae geisha (Siapaneg: 芸者, Geisha) neu geiko (芸妓, Geiko) yn ddiddanwyr benywaidd, traddodiadol Siapaneaidd. Mae eu sgiliau'n cynnwys perfformio celfyddydol Siapaneaidd, megis cerddoriaeth glasurol a dawns. Yn groes i'r gred gyffredin, nid puteiniaid yw geisha.
Math o gyfrwng | galwedigaeth |
---|---|
Math | diddanwr |
Rhagflaenwyd gan | oiran |
Enw brodorol | 芸者 |
Gwladwriaeth | Japan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Termau
golyguEnw cyffredin yw "Geisha". Fel pob enw Siapaneg, nid oes gwahaniaeth penodol rhwng y term unigol a'r lluosog. Mae'r gair yn cynnwys dau air kanji sef gei sy'n golygu "celfyddyd" a sha sy'n meddwl "person" neu "gwneuthurwr". Y cyfieithiad mwyaf uniongyrchol i'r Gymraeg o'r term "geisha" fyddai "artist" neu "artist sy'n perfformio".
Term arall a ddefnyddir yn Siapan yw geiko, a ddaw o air yn nhafodiaith Kyoto. Gelwir geisha sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant yn geiko. Defnyddir y term hwn hefyd yn yr ardal er mwyn gwahaniaethu rhwng geisha sydd wedi'i hyfforddi yn y celfyddydau traddodiadol a phuteiniaid sydd wedi "baeddu" enw a gwisg y geisha. Mae puteiniaid yn gwisgo cwlwm ei sash, neu'i obi, ar flaen eu kimono tra bod y geisha yn gwisgo'u obi ar y cefn. Gan amlaf roedd gan geisha gwirioneddol gynorthwyydd i'w helpu gyda'r broses anodd o wisgo; mae eu dillad yn cynnwys sawl haen o kimono a dillad isaf, ac mae'r obi yn llawer mwy na darn syml o ddefnydd. Gall gymryd dros awr i geisha wisgo, hyd yn oed gyda help cynorthwyydd. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i buteiniaid ddiosg eu obi sawl gwaith y dydd ac felly roedd eu gwisg yn llawer llai cymhleth ac yn clymu yn y tu blaen er mwyn gallu newid yn gyflym.
Camrau hyfforddiant
golyguYn draddodiadol, mae'r geisha yn dechrau eu hyfforddiant pan maent yn ifanc iawn. Er bod rhai merched wedi cael eu gwerthu i dai geisha ("okiya") pan yn blant, nid oedd hyn yn gyffredin mewn ardaloedd parchus. Yn aml byddai merched i geisha yn cael eu magu fel geisha eu hunain, fel arfer fel yr olynydd ("atotori" sy'n golygu etifedd) neu rôl-merch ("musume-bun") i'r okiya.
Galwyd y cam cyntaf yn yr hyfforddiant yn shikomi. Pan fyddai merched yn cyrraedd yn yr okiya am y tro cyntaf, byddent yn gweithio fel morynion ac yn gorfod gwneud nifer o dasgau angenrheidiol. Byddai'r gwaith yn anodd a'r nod oedd i wthio'r merched hyd eithaf eu gallu. Byddai shikomi ieuengaf y tŷ yn gorfod aros i fyny'n hwyr yn y nos tan bod y geisha hynaf a mwyaf profiadol yn dychwelyd o'i hapwyntiadau a gallai hyn fod hyd at ddau neu dri yn y bore. Yn ystod y cyfnod hwn o hyfforddiant, byddai'r shikomi yn mynd i wersi yn ysgol geisha y hanamachi (ardal y geisha). Mae'r traddodiad hwn yn parhau tan heddiw er mwyn i'r merched ymgyfarwyddo â thafodiaith draddodiadol, traddodiadau a gwisg y "karyūkai."
Pan fyddai'r ferch o dan hyfforddiant yn brofiadol gyda chelfyddydau'r geisha ac wedi pasio'r arholiad dawns anodd a therfynol, byddai'n cael ei dyrchafu i'r ail lefel o hyfforddiant: minarai. Ni fyddai disgwyl i'r minarai wneud gwaith tŷ. Mae cyfnod y minerai yn canolbwyntio ar hyfforddiant cyhoeddus. Er bod minarai yn mynychu ozashiki (gwleddau lle mae'r gwestai yn cael eu gofalu amdano gan y geisha) nid ydynt yn cymryd rhan ar lefel uwch. Mae eu kimono, sydd yn fwy cymhleth na kimono'r maiko, yn gwneud y siarad drostynt. Gellir llogi minarai ar gyfer partïon ond gan amlaf maent yn westai sydd heb gael eu gwahodd i'r parti a gynhelir gan eu onee-san ("chwaer fawr": mentor y Minarai). Serch hynny, cânt groeso cynnes. Codant dâl o 1/3. Gan amlaf, mae'r minarai yn gweithio gyda thŷ tê penodol (a elwir "minarai-jaya") gan ddysgu wrth yr "okaa-san" (perchennog benywaidd y tŷ) Nid yw'r sgiliau yma'n cael eu dysgu mewn ysgolion a dim ond trwy gymryd rhan ac ymarfer y gellir meithrin y sgiliau fel sgyrsio a hapchwarae. Mae'r cyfnod hwn yn para am tua mis yn unig.
Wedi cyfnod byr o amser, mae'r drydedd cyfnod o hyfforddiant yn dechrau, o'r enw maiko. Mae'r maiko yn geisha o dan brentisiaeth a gall y cyfnod hwn barhau am flynyddoedd. Dysga'r maiko o'u mentor geisha hŷn ac maent yn eu dilyn i'w apwyntiadau i gyd. Mae'r berthynas rhwng yr onee-san a'r imouto-san (ifanc) yn un bwysig. Am fod y onee-san yn dysgu popeth i'w maiko am weithio yn y hanamachi, mae ei haddysg yn hollbwysig. Bydd yn ei dysgu i weini tê, chwarae shamisen, dawnsio, sgwrsio cyffredinol a llawer mwy. Bydd yr onee-san yn dewis enw proffesiynol y maiko hyd yn oed gyda symbolau neu kanji sy'n ymwneud â'i henw ei hun. Ceir amrywiadau lleol am fod han'gyoku Tokyo yn enwog am fod yn hyderus tra bod maiko Kyoto yn llawer mwy addfwyn.
Ar ôl cyfnod mor fyr a chwech mis (yn Tokyo) neu gyhyd a pum mlynedd (yn Kyoto), dyrchefir y maiko i statws geisha llawn ac mae'n codi pris llawn am ei hamser. Mae geisha yn parhau i weithio felly tan eu bod yn ymddeol.
Geisha modern
golyguMae geisha modern yn parhau i fyw mewn tai geisha traddodiadol a elwir okiya mewn ardaloedd o'r enw hanamachi ("trefi blodau"), yn enwedig yn ystod eu prentisiaeth. Mae nifer o geisha profiadol yn ddigon llwyddiannus i fedru dewis byw yn annibynnol. Gelwir y byd gosgeiddig, uchel-ael mae'r geisha yn rhan ohono yn karyūkai (花柳界 "byd y blodyn a'r helygen").
Y dyddiau yma, mae gwragedd ifanc sy'n dymuno bod yn geisha yn dechrau eu hyfforddiant wedi iddynt gwblhau ysgol iau neu hyd yn oed ysgol hŷn neu goleg, gyda nifer ohonynt yn dechrau eu gyrfa pan yn oedolion. Bydd geisha yn astudio offerynnau traddodiadol fel y shamisen, shakuhachi (y ffliwt bambw), a'r drymiau, yn ogystal â chaneuon traddodiadol, dawns Siapaneaidd draddodiadol, seremonïau tê, llenyddiaeth a barddoniaeth. Trwy wylio geisha eraill a gyda chymorth perchennog y tŷ geisha, bydd y geisha o dan hyfforddiant hefyd yn dysgu'r traddodiadau cymhleth eraill sy'n ymwneud â dewis a gwisgo kimono a delio â chwsmeriaid.
Ystyrir Kyoto fel yr ardal lle mae traddodiad y geisha ar ei gryfa y dyddiau yma, gan gynnwys Gion Kobu. Gelwir y geisha yn yr ardal yma'n geiko. Mae hanamachi Tokyo yn Shimbashi, Asakusa a Kagurazaka hefyd yn adnabyddus.
Yn Siapan fodern, anaml y gwelir geisha a maiko tu allan hanamachi. Yn ystod y 1920au roedd dros 80,000 o geisha yn Siapan ond erbyn heddiw mae tipyn llai. Nid yw'r union rif yn wybyddus ond amcangyfrifir bod rhwng 1,000 a 2,000 gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli yn nhref Atami. Yn aml gwelir twristiaid yn talu i wisgo fel maiko.
Mae economi araf, diffyg diddordeb yn y celfyddydau traddodiadol, natur egsliwsif byd y blodyn a'r helygen a'r gost o gael eich diddanu gan geisha i gyd wedi cyfrannu at ddirywiad y traddodiad.
Yn aml, cyflogir geisha i fynychu partïon, gan amlaf mewn tai tê neu mewn tai bwyta traddodiadol Siapaneaidd (ryōtei). Mesurir eu hamser yn ôl yr amser mae'n cymryd i ddarn o arogldarth i losgi. Gelwir hyn yn senkōdai (線香代, "tâl arogldarth") neu gyokudai (玉代 "tâl gem"). Yn Kyoto defnyddir y term "ohana" (お花)a "hanadai" (花代), sy'n meddwl "tâl blodyn". Mae'r cwsmer yn gwneud trefniadau trwy swyddfa undeb y geisha (検番 kenban), sy'n cadw trefn ar ddigwyddiadur y geisha gan wneud apwyntiadau ar ei chyfer ar gyfer diddanu a hyfforddiant.
Geisha a phuteindra
golyguMae ansicrwydd yn parhau, yn Siapan ei hun hyd yn oed, am union natur proffesiwn y geisha. Mewn diwylliant poblogaidd gorllewinol, caiff geisha eu darlunio fel puteiniaid. Fodd bynnag, nid yw geisha yn cael rhyw gyda chwsmer am arian. Eu pwrpas yw i ddiddanu'u cwsmer, trwy adrodd cerddi, chwarae offerynnau cerddorol neu drwy sgwrsio'n ysgafn. Hwyrach y gallai gwaith y geisha gynnwys fflyrtio â'r dynion; fodd bynnag, gŵyr y dynion i beidio a disgwyl unrhyw beth yn fwy na hynny. Mae'n ffordd gymdeithasol sy'n unigryw i Siapan lle caiff y dynion eu diddanu gan y rhith o'r hyn na allai fyth fod.
Mae'r geisha wedi cael eu cymysgu gyda phuteiniaid llys o gyfnod Edo a gawsai eu hadnabod fel oiran. Fel y geisha, gwisgai'r geisha steil gwallt unigryw a cholur gwyn, ond arferai'r oiran glymu eu kimono yn y tu blaen. Nid oedd hyn er mwyn gallu diosg eu gwisg yn gyflym, fel y tybia nifer o bobl, ond am mai dyna oedd yr arfer i wragedd priod y cyfnod yn ôl yr anthropolegwraig Liza Dalby.
Roedd puteindra yn gyfreithlon yn ystod y cyfnod Edo. Gweithiai puteiniaid megis yr oiran mewn ardaloedd muriedig a gawsai eu trwyddedi gan y llywodraeth. Yn yr 19g, yn achlysurol byddai'r oiran yn cyflogi dynion a alwyd yn "geisha" i berfformio yn eu partïon. Felly roedd y geisha cyntaf yn ddynion. Ar ddiwedd y 18g, dechreuodd wragedd a ddawnsiai (a alwyd yn "odoriko") a "geish" benywaidd ddiddanu dynion mewn gwleddau yn yr ardaloedd nas trwyddedir. Cafodd rhai eu hatal am buteindra a'u danfon i'r ardal drwyddedig, lle gwelwyd wahaniaeth amlwg rhwng geisha a phuteiniaid. Cawsai'r geisha eu gwahardd rhag gwerthu'u cyrff. Ar y llaw arall, annogwyd y "machi geisha" a weithiai y tu allan i'r ardal trwyddedig i weithio fel puteiniaid.
Ym 1872, yn fuan ar ôl Adnewyddiad Meiji, pasiodd y llywodraeth newydd ddeddf a roddai'r hawl i buteiniaid weithio. Roedd geiriad y ddeddfwriaeth newydd yma yn ddadleuol iawn. Credai rhai swyddogion fod geisha a phuteiniaid yn gweithio ar ddau begwn gwahanol o'r un proffesiwn - gwerthu'u cyrff - ac felly y dylid galw pob putain yn "geisha". Yn y diwedd fodd bynnag, penderfynodd y llywodraeth i gadw'r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp, gan ddadlau fod "geisha" yn fwy diwylliedig ac na ddylent gael eu pardduo gyda'r cysylltiad i buteiniaid.
Yn ogystal â hyn, galwyd y "geisha" a weithiai mewn trefi onsen yn geisha onsen. Mae gan y "geisha onsen" enw gwael o ganlyniad i'r nifer o buteiniaid mewn trefi bychain a alwodd eu hunain yn "geisha", yn ogystal a'r dawnsiau fel "Shallow River" (lle byddai'r dawnswyr yn codi eu sgertiau'n uwch ac yn uwch.) Ar y llaw arall, roedd y "geisha onsen" gwirioneddol yn gerddorion ac yn ddawnswyr profiadol a chymwys. Fodd bynnag, yn hunangofiant Sayo Masuda, "geisha onsen" a weithiodd yn Nhalaith Nagano yn ystod y 1930au, roedd pwysau dychrynllyd ar y gwragedd yma i werthu'u cyrff i'w cwsmeriaid.
Perthynas personol a danna
golyguDisgwylir i geisha fod yn wragedd sengl; mae'r rheiny sy'n dewis priodi yn gorfod gadael y proffesiwn.
Yn draddodiadol yn y gorffennol, byddai geisha sefydlog yn cymryd danna neu noddwr. Yn gyffredinol, byddai'r danna yn wr cyfoethog, priod weithiau, a fedrai gynnal y costau uchel sy'n gysylltiedig â hyfforddi geisha a chostau eraill. Mae hyn yn digwydd yn achlysurol y dyddiau yma hefyd, ond pur anaml y gwelir hyn.
Efallai y byddai geisha a'i danna mewn cariad ac weithiau ni fyddent ond nid oedd agosatrwydd rhywiol byth yn wobr i'r danna am ei gefnogaeth ariannol. Mae'r gwerthoedd a'r confensgilau traddodiadol yn y berthynas rhwng y geisha a'i danna yn gymhleth iawn ac nid oes llawer o bobl yn deall y berthynas, hyd yn oed gan bobl Siapan.
Mae'n wir dweud bod rhyddid gan y geisha i ffurfio perthynas bersonol gyda dyn y bydd yn cyfarfod yn rhinwedd ei swydd ond mae'r perthynas o'r fath yn gorfod cael ei ddewis yn ofalus. Mae'r hanamachi yn dueddol o fod yn gymdeithas glos iawn ac felly gwneir popeth posib er mwyn gwarchod enw da yr unigolyn.
Gweler hefyd
golygu- Gion, ardal geisha enwocaf Siapan, yn Kyoto