Mair Garnon
Athrawes, digrifwraig ac awdur o Sir Benfro oedd Mair Garnon (hefyd Mair Garnon James, 1928 – 4 Mawrth 2022).[1]
Mair Garnon | |
---|---|
Ganwyd | Mair Garnon James 1928 Llandudoch |
Bu farw | 4 Mawrth 2022 Bryn Iwan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Magwyd Mair yn Llandudoch. Bu'n athrawes fro am flynyddoedd maith cyn ymddeol ar ddechrau'r 90au. Dros gyfnod o hanner can mlynedd teithiodd cannoedd o filltiroedd yn creu adloniant fel arweinydd Nosweithiau Llawen ac fel darlithydd poblogaidd.[2]
Mae ei chyfrol Hiwmor Sir Benfro yn cynnwys jôcs, cerddi ysgafn ac atgofion personol yr awdur.[3]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Jeff James a farwodd yn 2008. Roedd ganddynt tri o blant, Carys, Meinir ac Emyr.
Bu farw ar ddydd Gwener 4ydd o Fawrth, 2022 ar aelwyd Pencaer, Bryn Iwan yn 93 oed. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Blaenwaun, Llandudoch ddydd Sadwrn 12 Mawrth am 11.00 o'r gloch.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Hiwmor Sir Benfro (Y Lolfa, 2006)
- Ody'r Teid yn Mynd Mas? (Gwasg Gomer, 2013)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y ddigrifwraig a'r athrawes Mair Garnon James wedi marw , BBC Cymru Fyw, 5 Mawrth 2022.
- ↑ "Mair Garnon: Biography and Bibliography | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2020-01-16.[dolen farw]
- ↑ "www.gwales.com - 9780862439323, Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Sir Benfro". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-16.
- ↑ Hysbyseb marwolaeth Mair Garnon James. Western Mail (9 Mawrth 2022).
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mair Garnon ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |