Llandudoch

pentref yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro, Cymru, yw Llandudoch[1] (Saesneg: St. Dogmaels). Saif ar lan orllewinol aber Afon Teifi, gyferbyn a thref Aberteifi ac ar y ffordd B4546. Gefeilliwyd Llandudoch a Tredarzeg yn Llydaw.

Llandudoch
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,210 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0808°N 4.6786°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000467 Edit this on Wikidata
Cod OSSN165459 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Ceir eisteddfod gadeiriol flynyddol yma. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn dechrau gerllaw. Hyd yn ddiweddar roedd y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Ceredigion yn mynd trwy'r pentref, ond yn 2002 pasiwyd mesur i roi'r pentref i gyd yn Sir Benfro.

Llandudoch dros Afon Teifi o draeth Patch
Sant Tudoch

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

 
Y Stryd Fawr tua 1885.

Yn 987 anrheithiwyd y lle gan y Daniaid.

Yr adeilad mwyaf diddorol yma yw adfail Abaty Llandudoch, a sefydlwyd gan fynachod Urdd y Tironiaid o Ffrainc yn 1115 ar safle clas Celtaidd cynharach. Yn yr eglwys, y drws nesaf i'r abaty, mae Carreg Sagranus, sydd wedi bod yn bwysig iawn i ysgolheigion fel allwedd i fedru dehongli arysgrifau Ogam. Mae'r arysgrif Ladin arni yn coffáu Sagarani fili Cunotami, ac mewn Ogam Sagrani maqi Cunatami (Sagranus fab Cunotamus).

Yn 1091 cafwyd brwydr fawr yma lle lladdodd Rhys ap Tewdwr Gruffudd ap Maredudd.[4]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandudoch (pob oed) (1,353)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandudoch) (574)
  
43.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandudoch) (727)
  
53.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llandudoch) (299)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Gwefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-16. Cyrchwyd 2010-04-02.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

golygu