Mair Garnon

Athrawes ac awdur o Gymraes
(Ailgyfeiriad o Mair Garnon James)

Athrawes, digrifwraig ac awdur o Sir Benfro oedd Mair Garnon (hefyd Mair Garnon James, 19284 Mawrth 2022).[1]

Mair Garnon
GanwydMair Garnon James Edit this on Wikidata
1928 Edit this on Wikidata
Llandudoch Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
Bryn Iwan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata

Magwyd Mair yn Llandudoch. Bu'n athrawes fro am flynyddoedd maith cyn ymddeol ar ddechrau'r 90au. Dros gyfnod o hanner can mlynedd teithiodd cannoedd o filltiroedd yn creu adloniant fel arweinydd Nosweithiau Llawen ac fel darlithydd poblogaidd.[2]

Mae ei chyfrol Hiwmor Sir Benfro yn cynnwys jôcs, cerddi ysgafn ac atgofion personol yr awdur.[3]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Jeff James a farwodd yn 2008. Roedd ganddynt tri o blant, Carys, Meinir ac Emyr.

Bu farw ar ddydd Gwener 4ydd o Fawrth, 2022 ar aelwyd Pencaer, Bryn Iwan yn 93 oed. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Blaenwaun, Llandudoch ddydd Sadwrn 12 Mawrth am 11.00 o'r gloch.[4]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Y ddigrifwraig a'r athrawes Mair Garnon James wedi marw , BBC Cymru Fyw, 5 Mawrth 2022.
  2. "Mair Garnon: Biography and Bibliography | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2020-01-16.[dolen marw]
  3. "www.gwales.com - 9780862439323, Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor Sir Benfro". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-16.
  4.  Hysbyseb marwolaeth Mair Garnon James. Western Mail (9 Mawrth 2022).


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Mair Garnon ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.