Makoko
Ardal slym ar draws Trydedd Bont y Tir Mawr ar arfordir tir mawr Lagos yw Makoko. Mae traean o'r gymuned wedi'i hadeiladu ar stiltiau ar hyd y lagŵn tra bod y gweddill ar y tir. Pobl Egun yn bennaf sy'n byw ar lannau'r gymuned. Ymfudasant yno o Badagary a Gweriniaeth Benin a physgota yw eu prif waith. Yng Ngorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos i rai o'r stiltiau y tu hwnt i'r llinellau pŵer gael eu tynnu heb rybudd priodol. Arweiniodd hyn at ddinistrio nifer o stiltiau ar lannau Iwaya a Makoko a chollodd nifer o deuluoedd eu cartrefi.[1]
Makoko | |
---|---|
Anheddiad anffurfiol | |
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist. | |
Gwlad | Nigeria |
Talaith | Talaith Lagos |
Dinas | Lagos |
Ardaloedd Llywodraeth Leol Nigeria | Tir Mawr Lagos |
Settled | 19eg gabriff |
Poblogaeth (2012) | |
• Cyfanswm | 85,840 |
Hanes
golyguWedi'i sefydlu yn y 19eg ganrif, mae'r rhan fwyaf o Makoko yn sefyll ar strwythurau a adeiladwyd ar stiltiau uwchben Lagŵn Lagos .[2][3] Mae cymuned Makoko yn agos i Iwaya ar y lan ac i Oko Baba.[4] Ym mis Gorffennaf 2012, gorchmynnodd llywodraeth Lagos o dan Babatunde Fashola i'r stiltiau ar lan Iwaya a Makoko gael eu dymchwel a thynnwyd degau o stiltiau o fewn 72 awr o rybudd i'r preswylwyr. Collodd bron i 3,000 o bobl eu cartrefi wedi hyn.[1][5][6][7] Ddau fis ar ôl y dymchwel rhannol, datblygodd cwmni tai cysylltiedig â Serac o'r enw Urban Spaces Innovation gynllun adfywio i Makoko a fyddai'n golygu dod â'r gymuned, academyddion, sefydliadau nid-er-elw ac ymgynghorwyr rhyngwladol at ei gilydd i'w wireddu. Cyflwynwyd y cynllun i Weinyddiaeth Cynllunio Trefol a Chorfforol Lagos ym mis Ionawr 2014.
Cyfeirir at Makoko fel "Fenis Affrica" weithiau.[8] Ystyrir bod ganddi boblogaeth o 85,840, ond ni chyfrifwyd yr ardal yn swyddogol fel rhan o gyfrifiad 2007 ac felly amcangyfrifwyd bod y boblogaeth yn llawer uwch na hyn.[2]
Oriel
golygu-
Rhan o fap o Lagos, 1962, sy'n dangs Makoko a Tir Mawr Lagos
-
Makoko, 2010
-
Tirlun Makoko, 2017
-
Pysgod wedi'u dal ym Makoko
-
Rhostio pysgod ym Makoko
-
Ar ôl rhostio pysgod ym Makoko
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Destroying Makoko". The Economist. 18 August 2012.
- ↑ 2.0 2.1 This Day (1 May 2009). "Makoko Residents And Their Unwanted Guest". Africa News.
- ↑ Cohen, Roger (20 July 1998). "Nigerian Slum's Filth Is a World Away From Capital's Glitter". The New York Times.
- ↑ UN Integrated Regional Information Networks (5 September 2006). "Lagos, the mega-city of slums". Africa News. Cyrchwyd 19 September 2009.
- ↑ "Lagos Makoko slums knocked down in Nigeria". BBC. 17 July 2012. Cyrchwyd 28 February 2015.
- ↑ "Nigeria: Day After Makoko and Abonema - Frustration of a Homeless Nation". allAfrica.com. Cyrchwyd 28 February 2015.
- ↑ Tolu Ogunlesi, "Inside Makoko: danger and ingenuity in the world's biggest floating slum", The Guardian, 23 February 2016.
- ↑ Soni Methu (24 December 2014). "Postcards from home: documenting Nigeria's floating community". CNN. Cyrchwyd October 10, 2015.
Dolenni allanol
golygu- Iwan Baan (26 May 2013). "School at Sea". New York Times. Lluniau o Makoko.
- Slym arnofio Lagos Makoko - sut brofiad yw byw yno?