Gwlad yng ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Ffederal Nigeria neu Nigeria, gyda 36 talaith. Ei phrifddinas yw Abuja. Y gwledydd cyfagos yw Benin i'r gorllewin, Tsiad a Chamerŵn i'r dwyrain, a Niger i'r gogledd ac mae Gwlff Gini (Cefnfor yr Iwerydd) yn ffin arfordirol iddi tua'r de.

Nigeria
ArwyddairUndod a Ffydd, Heddwch a Chynnydd Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth ffederal, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Niger Edit this on Wikidata
Lb-Nigeria.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Nigeria.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-নাইজেরিয়া.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-نيجيريا.wav, LL-Q9027 (swe)-Moonhouse-Nigeria.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasAbuja Edit this on Wikidata
Poblogaeth211,400,708 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Hydref 1963 Edit this on Wikidata
AnthemCodwch, Gymrodyr! Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, Africa/Lagos Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Nigeria Nigeria
Arwynebedd923,768 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBenin, Niger, Tsiad, Camerŵn, São Tomé a Príncipe Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9°N 8°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet of Nigeria Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Nigeria Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Nigeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Nigeria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBola Tinubu Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$440,834 million, $477,386 million Edit this on Wikidata
Ariannaira Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.65 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.535 Edit this on Wikidata

Cafwyd sawl brenhiniaeth yn Nigeria dros y blynyddoedd. Ffurfiwyd y wlad bresennol i raddau helaeth gan Ymerodraeth Prydain yn y 19g a ailwampiwyd yn 'Protectoriaethau' (neu 'Ddiffynwledydd') Gogledd a De Nigeria yn 1914. Cadwyd y syniad o frenhiniaethau bychan i raddau helaeth, gyda'r Saesneg yn eu huno'n fwy na dim arall a hi, heddiw, yw iaith swyddogol y wlad. Yn dilyn ei hannibyniaeth yn 1960 (fel llawer o wledydd eraill) cafwyd rhyfel cartref gan sawl llu a ddymunai ei rheoli: rhwng 1967–1970. Ers hynny, llywodraethwyd y wlad drwy drefniant y fyddin a gan etholiadau democrataidd.

Yr etholiadau cyntaf i'w derbyn yn hollol niwtral a theg oedd etholiad 2011 pan etholwyd Goodluck Jonathan.[1] Yn etholiad cyffredinol y wlad ym Mawrth 2015, trechwyd Jonathan gan Muhammadu Buhari, gyda mwyafrif o ddim ond dwy filiwn o bleidleisiau. Derbynir yn gyffredinol i'r etholiad gael ei gweinyddu'n deg a niwtral.[2][3][4][5]

Yn 2014 economi Nigeria oedd y cryfaf yn Affrica, gan oddiweddu De Affrica, a thyfu i fod yn werth $500 biliwn, a chodi i fod y 21fed economi mwya'r byd.[6][7] Ar ben hyn, mae'r gyfradd dyled-GDP yn isel iawn: 11% yn unig.[8] Erbyn 2050 credir y bydd Nigeria ymhlith 20 economi mwya'r byd. y rheswm pennaf dros y llwyddiant hwn yw tanwydd ffosil. Mae hyn wedi rhoi pwer iddi fel gwlad a dywed Banc y Byd ei bod yn farchnad sy'n tyfu.[9]

Mae Nigeria'n aelod o MINT, sef grwp o wledydd a chaiff ei rhestru fel un o'r "Next Eleven", gyda gwledydd y byd yn rhagweld y bydd ei heconomi'n tyfu i fod yn un o'r mwya'n y byd. Mae Nigeria'n un o Wledydd y Gymanwlad, yr Undeb Affricanaidd, OPEC a'r Cenhedloedd Unedig.

Geirdarddiad golygu

Cymerwyd yr enw Nigeria o Afon Niger sy'n llifo trwy'r wlad. Bathwyd yr enw hwn ar 8 Ionawr 1897, gan y newyddiadurwr Seisnig Flora Shaw, a briododd yn ddiweddarach â'r Arglwydd Lugard, gweinyddwr trefedigaethol Prydeinig. Mae tarddiad yr enw Niger, a oedd yn wreiddiol yn berthnasol i rannau canol Afon Niger yn unig, yn ansicr. Y tebygrwydd yw bod y gair yn addiasiad o'r enw Tuareg egerew n-iger ewen a ddefnyddid gan drigolion canol yr afon o amgylch Timbuktu, cyn gwladychiaeth Ewropeaidd y 19g.[10][11]

 
Cerflun clai Nok

Wrth fynd ati i gloddio Argae Kainji cafwyd hyd i waith haearn erbyn yr 2g CC. Mae'n debyg i'r trosglwyddiad o'r Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) i Oes yr Haearn gael ei wneud heb gynhyrchu efydd canolradd. Mae eraill yn awgrymu i'r dechnoleg symud i'r gorllewin o Gwm Nile, er ei bod yn ymddangos bod yr Oes Haearn yn nyffryn Afon Niger a'r coedwigoedd 800 mlynedd cyn cyflwyno meteleg yn y safana uchaf.

Daearyddiaeth golygu

Y man uchaf yn Nigeria yw mynydd Chappal Waddi, sydd 2,419 metr uwch lefel y môr.

Hanes golygu

Enillodd Nigeria annibyniaeth rannol oddi wrth Brydain ar 1 Hydref 1960.

Ffynnodd gwareiddiad Nok Nigeria rhwng 1,500 CC a 200 OC. Cynhyrchwyd ffigurau terracotta o bobl maint llawn sef rhai o'r cerfluniau cynharaf y gwyddys amdanynt yn Affrica Is-Sahara[12][13][14][15][16] a mwyndoddwyd haearn erbyn tua 550 CC ac o bosibl ychydig ganrifoedd ynghynt.[17][18][19] Mae tystiolaeth o fwyndoddi haearn hefyd wedi'i ei ganfod mewn safleoedd yn rhanbarth Nsukka yn ne-ddwyrain Nigeria: yn dyddio i 2000 CC ar safle Lejja[20] ac i 750 CC yn Opi.

Hanes cynnar golygu

 

 
Pot Igbo seremonïol o Igbo-Ukwu o'r 9g

Mae'r Cronicl Kano yn gofnod hynafol sy'n dyddio i oddeutu 999 OC o ddinas-wladwriaeth Hausa Sahelian yn Kano, gyda dinasoedd mawr eraill yr Hausa (neu Hausa Bakwai) sef: Daura, Hadeija, Kano, Katsina, Zazzau, Rano, a Gobir- gyda chofnodion manwl yn eu disgrifio sy'n dyddio'n ôl i'r 10g. Gyda lledaeniad Islam o'r 7g OC, daeth yr ardal yn adnabyddus fel Sudan neu fel Bilad Al Sudan (Saesneg: Land of the Blacks; Arabeg : بلاد السودان). Gan fod y poblogaethau'n rhannol gysylltiedig â diwylliant Mwslimaidd-Arabaidd Gogledd Affrica, dechreuon nhw fasnachu Traws-Sahara a chyfeiriwyd atynt gan y siaradwyr Arabeg fel Al-Sudan (sy'n golygu "Y Crysau Duon") gan eu bod yn cael eu hystyried yn rhan estynedig o'r Byd Mwslimaidd. Ceir cyfeiriadau hanesyddol cynnar gan haneswyr a daearyddwyr Arabaidd a Mwslimaidd canoloesol at Ymerodraeth Kanem-Bornu fel prif ganolfan gwareiddiad Islamaidd y rhanbarth.

Cryfhawyd gafael Teyrnas Nri ar drigolion yr ardal, a pharahodd ei rheolaeth nes iddi golli ei sofraniaeth i Loegr ym 1911.[21][22] Rheolwyd Nri gan yr Eze Nri, ac ystyrir dinas Nri yn sylfaen diwylliant yr Igbo. Mae Nri ac Aguleri, yn nhiriogaeth clan Umeuri. Gall y llwyth yma olrhain eu llinachau yn ôl at y brenin patriarchaidd Eri.[23] Yng Ngorllewin Affrica, roedd y gwaith efydd hynaf a wnaed gan ddefnyddio'r broses cwyr coll yn dod o Igbo-Ukwu, dinas o dan ddylanwad Nri.[21] Daeth teyrnasoedd Yoruba Ife ac Oyo yn ne-orllewin Nigeria yn amlwg yn y 12g [24][25] a'r 14g[26], yn y drefn honno. Mae'r arwyddion hynaf o anheddiad dynol ar safle presennol Ife yn dyddio'n ôl i'r 9g [24] ac mae ei ddiwylliant gweledol yn cynnwys ffigurau terracotta ac efydd nodedig iawn.

Gwladychu Prydain golygu

 
Frederick Lugard, Barwn Lugard 1af a arweiniodd fel Llywodraethwr Cyffredinol Nigeria at uno ProtectoriaethGeiriadur Cyffredinol CysgairAmddiffynfa Gogledd Nigeria a Protectoriaeth De Nigeria ym 1914.

Roedd masnach gaethweision Ewropeaidd yn digwydd yn yr ardal nes iddi gael ei gwahardd ym 1807.

Ymyrrodd Prydain ym mrwydr pŵer brenhiniaeth Lagos trwy fomio Lagos ym 1851, gan ddiorseddu Oba Kosoko, a gosod yr Oba Akitoye yn bennaeth a llofnodi'r Cytundeb rhwng Prydain Fawr a Lagos ar 1 Ionawr 1852. Atododd Prydain Lagos fel "trefedigaeth y Goron" yn Awst 1861 gyda Chytundeb Sesiwn Lagos . Ehangodd cenhadon o Brydain eu gwaith a theithio ymhellach i mewn i'r tir. Yn 1864, daeth Samuel Ajayi Crowther yn esgob Affricanaidd cyntaf yr Eglwys Anglicanaidd.[27]

Ym 1885, derbyniodd nifer o wledydd fod gan Brydain hawl dros Orllewin Affrica yng Nghynhadledd Berlin. Y flwyddyn ganlynol, siartiodd Royal Niger Company o dan arweinyddiaeth Syr George Taubman Goldie. Erbyn diwedd y 19g a dechrau'r 20g, roedd y cwmni wedi llwyddo'n helaeth i ddarostwng teyrnasoedd annibynnol y de ar hyd Afon Niger, y Benin a orchfygwyd gan Loegr ym 1897, ac, yn y Rhyfel Eingl-Aro (1901-1902), trechodd Lloegr y gwrthwynebwyr eraill. Goresgynnwyd y taleithiau hyn yn ardal Niger a daethant dan reolaeth Prydain. Ym 1900, daeth tiriogaeth y Royal Niger Company dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth Prydain a sefydlwyd Protectoriaeth De Nigeria fel amddiffynfa Brydeinig a rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, pŵer mwyaf blaenllaw'r byd ar y pryd. Yn y broses yma lladdwyd miliynau o blant, merched a dynion cynhenid yr ardal.

Erbyn 1902, ymosododd byddin Lloegr ar Sokoto Caliphate. Cafodd y Cadfridog Prydeinig yr Arglwydd Frederick Lugard y dasg gan y Swyddfa Drefedigaethol i weithredu'r agenda. Gorchfygwyd y brodorion gan luoedd Prydain yn gyflym, gan anfon Attahiru I a miloedd o ddilynwyr ar ffo.

Ar Fawrth 13, 1903, yn sgwâr marchnad fawreddog Sokoto, fe ildiodd y caliphate olaf yn swyddogol i lywodraeth Prydain. Penododd y Prydeinwyr Muhammadu Attahiru II fel y caliph newydd. Diddymodd Lugard y caliphate ond cadwodd y teitl swltan fel enw symbolaidd yn Protectoraeth Gogledd Nigeria a oedd newydd ei threfnu. Daeth y gweddillion hyn i gael eu galw'n " Gyngor Swltaniaeth Sokoto". Ym Mehefin 1903, trechodd y Saeson weddill lluoedd Attahiru a;i ladd.

Erbyn 1906 roedd y gwrthwynebiad i oresgyniad Prydain wedi dod i ben.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i dwf cenedlaetholdeb Nigeria a'r galwadau am annibyniaeth, symudodd Nigeria tuag at hunan-lywodraeth ar sail gynrychioliadol, ffederal. Erbyn canol yr 20g, roedd ton fawr o'r brodorion yn galw am annibyniaeth, ledled Affrica.

Enillodd Nigeria rhyw fesur o hunanreolaeth ym 1954, ac annibyniaeth lawn o’r Deyrnas Unedig ar 1 Hydref 1960, fel Ffederasiwn Nigeria gydag Abubakar Tafawa Balewa yn brif weinidog iddi, gan gadw brenhiniaeth Prydain, Elizabeth II, yn bennaeth mewn enw'n unig ar y wladwriaeth law yn llaw gyda Brenhines Nigeria. Disodlodd Azikiwe lywodraethwr cyffredinol y trefedigaeth, a benodwyd gan Loegr, yn Nhachwedd 1960.[28]

Ieithoedd golygu

 
Map o grwpiau ieithyddol Nigeria

Clywyd 521 o ieithoedd yn Nigeria tan yn ddiweddar; mae naw ohonyn nhw bellach wedi diflannu.  Mewn rhai ardaloedd yn Nigeria, mae grwpiau ethnig yn siarad mwy nag un iaith. Dewiswyd iaith swyddogol Nigeria, Saesneg, i hwyluso undod diwylliannol ac ieithyddol y wlad, oherwydd dylanwad gwladychu Prydain a ddaeth i ben ym 1960. Mae llawer o siaradwyr Ffrangeg o'r gwledydd cyfagos wedi dylanwadu ar y Saesneg a siaredir yn rhanbarthau ffiniol Nigeria ac mae rhai o ddinasyddion Nigeria wedi dod yn ddigon rhugl yn Ffrangeg i weithio yn y gwledydd cyfagos. Mewn rhai mannau, mae'r Ffrangeg a siaredir yn Nigeria yn gymysg â rhai ieithoedd brodorol; maen nhw'n cymysgu Ffrangeg â'r Saesneg hefyd.

Mae'r prif ieithoedd a siaredir yn Nigeria yn cynrychioli tri theulu mawr o ieithoedd Affrica: mae'r mwyafrif yn ieithoedd Niger-Congo, megis Igbo, Yoruba, Ijaw, Fulfulde, Ogoni, ac Edo. Mae Kanuri, a siaredir yn y gogledd-ddwyrain, yn bennaf yn Nhalaith Borno ac Yobe, yn rhan o deulu Nilo-Sahara, ac mae Hausa yn iaith Affroasiatig. Er bod yn well gan y mwyafrif o grwpiau ethnig gyfathrebu yn eu hieithoedd eu hunain, defnyddir Saesneg fel yr iaith swyddogol yn helaeth ar gyfer addysg, trafodion busnes ac at ddibenion swyddogol. Lleiafrif bach yn unig o elit trefol y wlad sy'n defnyddio'r Saesneg fel iaith gyntaf, ac nid yw'n cael ei siarad o gwbl mewn rhai ardaloedd gwledig. Hausa yw'r prif iaith a siaredir fwyaf eang yn Nigeria.

Religion in Nigeria (est. 2018)[29]     Muslim (55.9%)     Christian (43.6%)     Traditional faiths (0.6%)

Gwleidyddiaeth golygu

Ers 2002 gwelwyd trais ar gynnydd e.e. Boko Haram y mudiad Islamaidd sy'n dymuno disodli llywodraeth y wlad gyda llywodraeth wedi'i seilio ar gyfraith Sharia.[30][31] Yn ôl Arlywydd y wlad ym Mai 2014 roedd ymosodiadau Boko Haram wedi lladd 12,000 o bobl.[32] Ymunodd y gwledydd sy'n ffinio â Nigeria i geisio ffrwyno'r terfysgwyr, yn bennaf fel ymateb i Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011 a Herwgipio merched ysgol Chibok, 2014.[33]

Diwylliant golygu

Economi golygu

Ceir cysylltiad cryf rhwng economi Nigeria ac Unol Daleithiau America: hi yw partner masnachu mwya'r Unol Daleithiau yng nghanol a de Affrica, ac mae'n allforio 11% o'i holew i'r UDA ac mae'n allforio llawer o nwyddau eraill hefyd i'r UDA. Ar y llaw arall, yr Unol Daleithiau yw'r wlad sy'n buddsoddi fwyaf yn Nigeria. Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), mae economi Nigeria wedi tyfu ar gyfartaledd o 8% ers 2008.

Yn 2014 economi Nigeria oedd y cryfaf yn Affrica, gan oddiweddu De Affrica, a thyfu i fod yn werth $500 biliwn, a chodi i fod y 21fed economi mwya'r byd.[6][7] Ar ben hyn, mae'r gyfradd dyled-GDP yn isel iawn: 11% yn unig.[8] Erbyn 2050 credir y bydd Nigeria ymhlith 20 economi mwya'r byd. y rheswm pennaf dros y tyfiant hwn yw tanwydd ffosil. Mae hyn wedi rhoi pwer iddi fel gwlad a dywed Banc y Byd ei bod yn farchnad sy'n tyfu.[9]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Nossiter, Adam (16 Ebrill 2011). "Nigerians Vote in Presidential Election". The New York Times. Cyrchwyd 17 Ebrill 2011.
  2. ""Nigeria election: Muhammadu Buhari wins"". BBC. Cyrchwyd 31 Mawrth 2015.
  3. "Obama praises Nigeria's president for conceding defeat". Vanguard. 1 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
  4. "APC praises Jonathan for conceding defeat". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-08. Cyrchwyd 4 April 2015.
  5. "Anyaoku Praises Jonathan For Conceding Defeat". Channels Television. 31 Mawrth 2015. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
  6. 6.0 6.1 "Nigeria becomes Africa's largest economy". Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
  7. 7.0 7.1 "Nigerian Economy Overtakes South Africa's on Rebased GDP". Cyrchwyd 20 Ebrill 2014.
  8. 8.0 8.1 "UPDATE 2-Nigeria surpasses South Africa as continent's biggest economy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-04. Cyrchwyd 26 Ebrill 2014.
  9. 9.0 9.1 "Nigeria". World Bank. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2013.
  10. The Arabic name nahr al-anhur is a direct translation of the Tuareg.
  11. "Online Etymological Dictionary". Etymonline.com. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
  12. Breunig, Peter. 2014.
  13. Nicole Rupp, Peter Breunig & Stefanie Kahlheber, "Exploring the Nok Enigma", Antiquity 82.316, Mehefin 2008.
  14. B.E.B. Fagg, "The Nok Culture in Prehistory", Journal of the Historical Society of Nigeria 1.4, December 1959.
  15. Kleiner, Fred S.; Christin J. Mamiya (2009). Gardner's Art Through the Ages: Non-Western Perspectives (arg. 13, revised). Cengage Learning. t. 194. ISBN 978-0-495-57367-8.
  16. "Nok Terracottas (500 B.C.–200 A.D.) | Thematic Essay | Heilbrunn Timeline of Art History | The Metropolitan Museum of Art". Metmuseum.org. 2 Mehefin 2014. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2014.
  17. Tylecote 1975 (see below)
  18. Eggert, Manfred (2014). "Early iron in West and Central Africa". In Breunig, P (gol.). Nok: African Sculpture in Archaeological Context. Frankfurt, Germany: Africa Magna Verlag Press. tt. 51–59.
  19. Eggert, Manfred (2014). "Early iron in West and Central Africa". In Breunig, P (gol.). Nok: African Sculpture in Archaeological Context. Frankfurt, Germany: Africa Magna Verlag Press. tt. 53–54. ISBN 9783937248462.
  20. Eze–Uzomaka, Pamela. Iron and its influence on the prehistoric site of Lejja. University of Nigeria, Nsukka, Nigeria. https://www.academia.edu/4103707. Adalwyd 12 December 2014.
  21. 21.0 21.1 Juang, Richard M. (2008). Africa and the Americas: culture, politics, and history: a multidisciplinary encyclopedia, Volume 2. ABC-CLIO. t. 597. ISBN 978-1-85109-441-7.
  22. Hrbek, Ivan (1992). Africa from the seventh to the eleventh Century. James Currey Publishers. t. 254. ISBN 978-0-85255-093-9.
  23. Uzukwu, E. Elochukwu (1997). Worship as Body Language. Liturgical Press. t. 93. ISBN 978-0-8146-6151-2.
  24. 24.0 24.1 Falola, Toyin; Heaton, Matthew M. (2008). A History of Nigeria. Cambridge University Press. t. 23. ISBN 978-0-521-68157-5.
  25. Laitin, David D. (1986). Hegemony and culture: politics and religious change among the Yoruba. University of Chicago Press. t. 111. ISBN 978-0-226-46790-0.
  26. MacDonald, Fiona; Paren, Elizabeth; Shillington, Kevin; Stacey, Gillian; Steele, Philip (2000). Peoples of Africa, Volume 1. Marshall Cavendish. t. 385. ISBN 978-0-7614-7158-5.
  27. Derek R. Peterson, ed., Abolitionism and imperialism in Britain, Africa, and the Atlantic (Ohio UP, 2010).
  28. Udofia, O.E. (1981). "Nigerian Political Parties: Their Role in Modernizing the Political System, 1920–1966". Journal of Black Studies 11 (4): 435–447. doi:10.1177/002193478101100404. JSTOR 2784073. https://archive.org/details/sim_journal-of-black-studies_1981-06_11_4/page/435.
  29. "Africa :: Nigeria — The World Factbook - Central Intelligence Agency". 2018. Total population: 214 million Religions: Muslim, 53.5%; Christian, 45.9%; Other, 0.6%
  30. "Dozens killed in Nigeria clashes". Al Jazeera. 24 December 2011. Cyrchwyd 24 December 2011.
  31. Olugbode, Michael (2 Chwefror 2011). "Nigeria: We Are Responsible for Borno Killings, Says Boko Haram". allAfrica.com. Cyrchwyd 31 Ionawr 2012. The sect in posters written in Hausa and pasted across the length and breadth of Maiduguri Wednesday morning signed by the Warriors of Jamaatu Ahlis Sunna Liddaawati Wal Jihad led by Imam Abu Muhammed Abubakar Bi Muhammed a .k .a Shehu claimed they embarked on the killings in Borno "in an effort to establish Sharia system of government in the country".
  32. 17 Mai 2014 (2014-05-17). "Boko Haram has killed over 12,000 Nigerians, plans to take over country, Jonathan says – Premium Times Nigeria". Premiumtimesng.com. Cyrchwyd 2014-06-04.
  33. "Boko Haram to be fought on all sides". Nigerian News.Net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-30. Cyrchwyd 18 Mai 2014.

Dolenni allanol golygu