Mewn cyd-destun cyfraith sifil, agwedd ar fai at bwrpasau atebolrwydd yw malais (malice) Hwn yw'r cyflwr meddwl mwyaf beius a gresynus posibl ar ran y camweddwr wrth gyflawni camwedd.

Fe'i mynegir amlaf fel 'sbeit' neu gymhelliad cudd ar ran y diffynnydd. Mae rhai camweddau yn mynnu yn ffurfiol fod malais yn bodoli er mwyn i hawliad llwyddiannus gael ei ddwyn, e.e. celwydd maleisus; fodd bynnag, fe'i gwelir gan amlaf fel agwedd a all amddifadu diffynnydd o amddiffyniad (megis yng nghyd-destun amddiffyniad o fraint amodol i achos difenwi) neu ffactor a all gynyddu'r iawndal a ddyfernir i'r hawlydd.[1]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu