Gwastadrwydd meddwl

Cyflwr o dawelwch meddwl llwyr yw gwastadrwydd meddwl.[1] Mae'r cysyniad hwn yn gysylltiedig â nifer o grefyddau a systemau ysbrydol, yn enwedig o ran myfyrdod.

Bwdhaeth

golygu

Mae gwastadrwydd meddwl yn un o brif amcanion myfyrdod Bwdhaidd.

Cristnogaeth

golygu
Gweler hefyd: Diwinyddiaeth asgetaidd.

Rhoddwyd pwyslais gryf ar wastadrwydd meddwl yn ystod oes gynnar Cristnogaeth, ac yn ystod yr Oesoedd Canol. Cafodd ei ystyried yn un o'r prif rinweddau Cristnogol ac yn erfyn i buro'r ysbryd. Mae'r cysyniad yn amlwg mewn ysgrifau Tadau'r Eglwys wrth sôn am nepsis, ataraxia ac apathia.[2]

Hindŵaeth

golygu

Mae natur Brahman yn Hindŵaeth yn gyfystyr â'r cysyniad o wastadrwydd meddwl, ac yn un o nodau ioga.

Iddewiaeth

golygu

Hashlamah yw'r gair Hebraeg am wastadrwydd meddwl. Mae'r gair hwn yn tarddu o'r bôn Semiteg Š-L-M, ac felly'n perthyn i'r geiriau Hebraeg am heddwch (shalom) a chyfanrwydd (shlemut). I'r Iddewon mae hashlamah yn cyfleu ystyr o heddwch gyda Duw.[2]

Mae'r gair Islam yn gytras â'r gair Hebraeg hashlamah. Ystyr lythrennol y gair Mwslim yw "un sydd yn wastadfeddwl".[2]

Stoïciaeth

golygu

Yn yr Henfyd, cyfleuwyd y cysyniad o wastadrwydd meddwl gan y Stoïciaid Groegaidd gan y gair apathia a chan y Stoïciaid Rhufeinig gan y gair aequanimitas.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  gwastadrwydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Shinzen Young. What is Equanimity?. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.