Malakand (dosbarth)
Ardal weinyddol yw Dosbarth Malakand yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan. Mae'n cynnwys rhan o'r ardal draddodiadol, Malakand, ond yn llai o gryn dipyn.
Math | district of Pakistan ![]() |
---|---|
Prifddinas | Batkhela ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Malakand Division ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 952 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Lower Dir District, Buner District ![]() |
Cyfesurynnau | 34.5°N 71.75°E ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/21/Pakistan_-_Khyber_Pakhtunkhwa_-_Malakand.svg/250px-Pakistan_-_Khyber_Pakhtunkhwa_-_Malakand.svg.png)
Mae gan Malakand arwynebedd o 952 km2 ac mae tua 567,000 o bobl yn byw yno (amcangyfrif 2004-05). Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn bobl Pashtun sy'n siarad Pashto.
Yn Ebrill a Mai 2009 gwelwyd ymladd difrifol rhwng Byddin Pacistan a'r Taliban a'u cefngowyr yn y dosbarth ac ar draws rhanbarth Malakand, sy'n cynnwys Dir a Swat. Dros yr ardal gyfan roedd rhai cannoedd o filoedd o bobl wedi cael eu disodli gan yr ymladd ac roedd cyrffiw yn cael ei weithredu.[1]
Gweler hefyd
golygu- Malakand (yr ardal hanesyddol)
- Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan
- Khyber Pakhtunkhwa
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Clashes, curfews and displacement across Malakand" Archifwyd 2009-05-11 yn y Peiriant Wayback. Dawn News (Pacistan), 08.05.2009.